Llyfrgell Llanandras
Mae Llyfrgel Llanandras wedi’i lleoli mewn adeilad hanesyddol neuadd y farchnad, gan gynnig gofod croesawgar ar gyfer darllen ac astudio. Mae’n darparu llyfrau, gwasanaethau digidol, ac yn cefnogi dysgu a hamdden yn y dref ffin hon.
Cyfleusterau
Lleolir Llyfrgell Llanandras yn y Neuadd Farchnad hanesyddol o dan yr Ystafelloedd Cyfarfod.
- Wi-Fi am ddim a chyfrifiaduron gyda mynediad at y rhyngrwyd.
- Argraffu a sganio, gan gynnwys argraffu trwy Wifi o’ch dyfais bersonol.
- Pwynt Mynediad Gwasanaethau Cwsmer y Cyngor.
Gallwch chwilio am lyfrau ar gatalog y llyfrgell a gwneud cais amdanynt.
Gall aelodau’r Llyfrgell fenthyca a lawr lwytho eLyfrau, eLyfrauclywedol ac eGylchrgonau 24/7.
Newidiadau i’r oriau agor
O fis Medi ymlaen, mae ein horiau agor yn Llyfrgell Llanandras yn newid!
Byddwn yn dal i fod ar agor am yr un nifer o oriau, peidiwch â phoeni – ond rhai ychydig yn wahanol, i helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau y gallwn. Byddwn yn ymestyn oriau ddydd Mawrth i aros ar agor tan 6pm, ac yn agor Mercher o 10 tan 2pm yn hytrach nag yn y prynhawn.
Ni fydd y newidiadau hyn yn digwydd tan y 1af o Fedi, felly mae gennych ddigon o amser i ddod i arfer â’r newid! Bydd ein horiau gwirfoddoli ar ddydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn yn aros yr un fath. Gobeithiwn eich gweld yn ystod ein horiau newydd!
Gellir gweld yr oriau agor presennol isod:
Oriau Agor
dydd Llun
10:00 – 13:00
dydd Mawrth
10:00 – 13:00 a 14.00 – 17.00
dydd Mercher
13:00 – 18.00
dydd Iau
15:00 – 17:00
dydd Gwener
10:00 – 13:00
dydd Sadwrn
10:00 – 13:00
dydd Sul
Ar gau
Llyfrgell Llanandras
Market Hall,
Llanandras,
Powys
LD8 2AD
Market Hall,
Llanandras,
Powys
LD8 2AD