Amgueddfa Sir Faesyfed

Dysgwch fwy am y gwaith pwysig y mae amgueddfeydd Powys yn eu gwneud i warchod treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y sir.

Lleolir Amgueddfa Sir Faesyfed yng nghanol Llandrindod ac mae’n cadw casgliadau sy’n ymwneud â’r hen sir Faesyfed. Lleolir yr amgueddfa yn hen Lyfrgell Gyhoeddus Carnegie. Mae ei chasgliadau yn cynnwys:

Archaeoleg
Casgliad gwych o eitemau o’r cyfnod cynhanesyddol i’r canol oesoedd gan gynnwys Ceufad Llandrindod a Sheela na Gig, casgliad Castell Collen.

Palaeontoleg
Casgliad rhagorol o sbesimenau Ordofigaidd o Fewngraig Llanfair-ym-Muallt-Llandrindod.

Celfyddyd Gain
Yn cynnwys gwaith Thomas Jones, J.M. Ince, William Stone, John Opie, Syr Alfred East, William Mills, Elizabeth a Bryan Organ, Catherine Lyons.

Astudiaeth Natur
Sbesimenau wedi’u cadw yn perthyn i rai o drigolion naturiol Sir Faesyfed ynghyd â chofroddion o hinsoddau mwy egsotig. Cipolwg ar chwaeth a ffasiynau’r gorffennol.

Hanes Milwrol
Arteffactau a gwybodaeth yn ymwneud â dynion a merched Sir Faesyfed a wasanaethodd mewn dau Ryfel Byd a deunydd o Ffrynt Cartref Sir Faesyfed.

Hanes Cymdeithasol
Casgliad cyfoethog ac amrywiol yn cynnwys: casgliad ffotograffig mawr, eitemau’n ymwneud â threftadaeth Sba Llandrindod, Casgliad Cymdeithas Kilvert yn ymwneud â’r dyddiadurwr Fictoraidd enwog, a Thelyn Deires Gymreig odidog John Roberts.

Oriau Agor

dydd Llun
09:30 – 17:00
dydd Mawrth
09:30 – 18:00
dydd Mercher
Ar gau
dydd Iau
09:30 – 17:00
dydd Gwener
09:30 – 17:00
dydd Sadwrn
09:30 – 15:00
dydd Sul
Ar gau
Amgueddfa Sir Faesyfed
Temple Street,
Llandrindod,
Powys
LD1 5DL

Chwilio Casgliadau Amgueddfeydd a Threftadaeth

Archwiliwch ein casgliadau unigryw a dysgu mwy am y dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sy’n cael ei harddangos ar draws amgueddfeydd ym Mhowys