Y Lanfa – Amgueddfa Powysland (Ar gau dros dro)

Dysgwch fwy am y gwaith pwysig y mae amgueddfeydd Powys yn eu gwneud i warchod treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y sir.

Mae Amgueddfa Powysland yn rhan o ‘Y Lanfa: Amgueddfa Powysland a Llyfrgell y Trallwng,’ Cliciwch yma i ganfod mwy am Lyfrgell Y Trallwng.

Lleolir yr Amgueddfa ar y llawr cyntaf yn bennaf, a gellir ei chyrraedd drwy ddefnyddio lifft neu risiau. Mae 2 le parcio i’r anabl o flaen yr adeilad.

Mae Amgueddfa Powysland yn darlunio archeoleg a hanes cymdeithasol sir Drefaldwyn.

Mae’r oriel gyntaf yn dangos sut mae bywyd yng nghanolbarth Cymru wedi newid gydag arddangosfeydd ar fasnachau, tafarndai, y rheilffordd, a Laura Ashley, yn ogystal ag arddangosfeydd am y rhyfeloedd ac Iwmyn (Yeomanry) Sir Drefaldwyn.

Mae’r ail oriel yn mynd â’r ymwelydd ar daith gronolegol o amgylch darganfyddiadau archeolegol lleol o’r cyfnod cynhanesyddol, yr Hen Rufeiniaid i’r cyfnod Canoloesol cynnar. Mae’r arddangosfeydd yn cynnwys darganfyddiadau archeolegol gan bobl leol ac o waith cloddio a wnaed gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys.

Mae yna raglen allgymorth lle gall yr amgueddfa roi benthyg ei gasgliad trin i ysgolion, colegau, meithrinfeydd a chartrefi gofal preswyl.

 

Oriau Agor

dydd Llun
09:30 – 18:00
dydd Mawrth
09:30 – 17:00
dydd Mercher
09:30 – 13:00
dydd Iau
Ar gau
dydd Gwener
09:30 – 17:00
dydd Sadwrn
09:30 – 13:00
dydd Sul
Ar gau
Amgueddfa Powysland
Y Lanfa
The Canal Wharf
Y Trallwng
Powys
SY21 7AQ

Chwilio Casgliadau Amgueddfeydd a Threftadaeth

Archwiliwch ein casgliadau unigryw a dysgu mwy am y dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sy’n cael ei harddangos ar draws amgueddfeydd ym Mhowys