Hysbysiad Preifatrwydd Cyngor Sir Powys ar gyfer Gwasanaethau Diwylliannol
Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn nodi sut mae Cyngor Sir Powys yn casglu, defnyddio a rhannu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion gwasanaethau Archifau, Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd.
Pwy ydyn ni a sut i gysylltu â ni?
Archifau Powys Uned 29 Parc Menter Ffordd y Ddol Llandrindod Powys LD1 6DF
archive@powys.gov.uk
01597 826088
Swyddog Diogelu Data (SDD):
Gellir cysylltu â’r SDD ar gyfer CSP trwy ebost ar information.compliance@powys.gov.uk.
Pa wybodaeth bersonol ydyn ni’n ei phrosesu amdanoch chi?
Er mwyn darparu gwasanaethau Archifau, Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd i chi, efallai y byddwn yn prosesu’r wybodaeth ganlynol amdanoch chi:
· Enw, cyfeiriad, manylion cyswllt gan gynnwys rhif ffôn a chyfeiriad ebost, a dyddiad geni
· Enwau defnyddwyr a rhifau tocynnau sy’n unigryw i chi
· Eitemau llyfrgell rydych chi wedi’u benthyg a gofyn amdanynt
· Eich pwnc ymchwil ac unrhyw ymchwil yr ydym wedi’i wneud ar eich cyfer
· Eitemau yr ydym wedi’u copïo i chi, eitemau rydych chi wedi tynnu lluniau ohonynt, ac eitemau sydd wedi’u trwyddedu i chi eu defnyddio
· Gwybodaeth am daliadau a thrafodion
· Delweddau ar ffurf fideo a/neu ffotograffig, lle rydych wedi rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny
· Eich delwedd wedi’i dynnu trwy ffilmiau teledu cylch cyfyng (bydd arwyddion yn nodi pan mae hyn yn berthnasol)
· Gwybodaeth am ymweliadau â’n gwefan, gan gynnwys eich cyfeiriad IP, math o borwr, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, a lleoliad.
· Gwybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni trwy ein sianeli cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan.
· Cofnodion o’ch presenoldeb mewn digwyddiadau a ddarperir gennym ni, boed hynny ar ein pennau ein hunain neu mewn cydweithrediad â sefydliadau partner.
· Gwybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni drwy ebyst a llythyrau
· Ffurflenni caniatâd wedi’u llofnodi ar gyfer benthyg offer
· Cofnodion o ddefnydd o gyfrifiaduron cyhoeddus ac argraffu
· Cofnodion o ddefnydd data a defnydd apiau wrth fenthyg iPads
Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu er mwyn:
· Sicrhau bod gwasanaethau llyfrgell yn cael eu darparu yn unol â gofynion statudol
· Darparu mynediad i chi at wasanaethau ychwanegol fel defnyddio’r rhyngrwyd mewn llyfrgelloedd a benthyg e-lyfrau arlein, os ydych wedi gofyn amdanynt
· Caffael eitemau rydych chi wedi’u cyflwyno neu eu rhoi fel rhodd i ni
· Monitro a gwerthuso ansawdd y gwasanaeth a ddarparwn
· Cynhyrchu ystadegau ac adroddiadau i ymchwilio a chynllunio gwasanaethau newydd
· Ymateb i ymholiadau a chwynion
· Adolygu effaith rhaglenni a gyflwynir
· Rhannu gwybodaeth farchnata am ein gwasanaethau ac i hyrwyddo ein rhaglenni gweithgareddau, gyda’ch caniatâd.
· Rhoi gwybod i chi am newidiadau i’n gwasanaethau, lle rydych wedi cytuno i dderbyn y wybodaeth honno.
· Rheoli eich rhyngweithiadau â’n gwefan neu ein wi-fi cyhoeddus
· Sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau iechyd a diogelwch, gan gynnwys dogfennu digwyddiadau a chynnal asesiadau risg ar gyfer gwirfoddolwyr.
Er mwyn ein helpu i lunio ystadegau dienw, efallai y byddwn yn gofyn am wybodaeth wirfoddol am ryw, cefndir ethnig, ac anabledd. Ni chaiff y data hwn ei ddefnyddio i adnabod unigolion, a gallwch ddewis os ydych am ei ddarparu.
Ni ddefnyddir system gwneud penderfyniadau awtomataidd (yn cynnwys proffilio).
Gyda phwy y gallwn rannu eich gwybodaeth bersonol?
Cedwir y data sydd gennym am aelodau’r llyfrgell ar gronfa ddata ddiogel a rennir gyda gwasanaethau llyfrgelloedd awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, ond dim ond i ddarparu gwasanaethau llyfrgell i chi o fewn Llyfrgelloedd Powys y defnyddir eich gwybodaeth.
Efallai y bydd gan gyflenwr ein system feddalwedd Rheoli Llyfrgelloedd fynediad at eich data hefyd, ond dim ond yng nghyd-destun gweinyddu a chefnogi’r system y bydd hyn yn cael ei ddefnyddio.
Fel arfer, ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth o’n System Rheoli Llyfrgelloedd gyda sefydliadau eraill heb eich caniatâd, oni bai bod sail gyfreithlon arall yn bodoli neu bod yn ofynnol i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith, er diogelwch y cyhoedd, neu er mwyn atal y risg o niwed.
Y Sail Gyfreithiol (Beth sy’n caniatáu inni brosesu eich data personol):
Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol yn unol â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU (GDPR), sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni nodi pa sail gyfreithiol y mae’n dibynnu arni i brosesu eich data personol.
I brosesu eich data personol yma, rydyn ni’n dibynnu ar y canlynol:
· Eich caniatâd mewn rhai amgylchiadau. Pan fydd hyn yn berthnasol, gallwch dynnu eich caniatâd yn ôl ar unrhyw adeg. Gallwch wneud hyn trwy gysylltu â ni drwy’r manylion a ddarperir uchod.
· Rhwymedigaeth gytundebol.
· Ein rhwymedigaeth i gyflawni tasg gyhoeddus.
Am ba mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol?
Gellir gweld manylion am ba hyd y bydd gwybodaeth bersonol amdanoch yn cael ei chadw yn Atodlen Cadw Cyngor Sir Powys. Gallwch gael mynediad at y wybodaeth hon yma: Cadw a dinistrio cofnodion – Cyngor Sir Powys Ar ddiwedd y cyfnod cadw, caiff gwybodaeth ei dileu.
Gwybodaeth bellach:
I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich data personol, yr hawliau y mae gennych hawl i’w harfer megis yr hawl i fynediad, a manylion cyswllt y comisiynydd, gweler ein hysbysiad preifatrwydd cyffredinol yma: Diogelu Data a Phreifatrwydd – Cyngor Sir Powys
Diweddarwyd yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn ar: 19/02/2026
Gwybodaeth ar sut yr ydym yn defnyddio cwcis
Pan fyddwch yn defnyddio’r wefan hon, bydd ychydig o ddata (cwcis) yn cael eu storio ar eich cyfrifiadur.
Mae’r cwcis hyn yn angenrheidiol i ni er mwyn cyflwyno gwasanaeth gwe da i chi. Ni ddefnyddir dim ohonynt er dibenion marchnata, ac nid oes unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei storio o fewn ein cwcis (nac yn cael eu defnyddio i gael mynediad at wybodaeth gan ein cwcis).Y cyfan a wnânt yw helpu ein safle i weithio
Rydym yn eu defnyddio ar y wefan hon i wella gwasanaethau i chi, trwy, er enghraifft:
- sicrhau fod eich dyfais yn cael ei adnabod fel na fydd rhaid i chi gyflwyno’r un wybodaeth sawl gwaith yn ystod un dasg.
- adnabod eich bod eisoes wedi rhoi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair fel nad oes rhaid i chi eu hailgyflwyno ar bob tudalen we y byddwch yn mynd arnynt.
- mesur faint o bobl sy’n defnyddio ein gwefan, fel y gallwn sicrhau ein bod yn gallu diwallu’r galw.
- deall sut mae pobl yn cael mynediad at y wybodaeth ar ein safle trwy beiriannau chwilio fel y gallwn ei deilwra i sicrhau fod gwybodaeth yn haws i’w ganfod.
Cwcis ar wefan storipowys.org.uk gan gwmnïau eraill a gwefannau rhwydweithio cymdeithasol
Yn ystod eich ymweliad â’r safle, efallai y byddwch yn sylwi ar rai cwcis nad ydynt yn gysylltiedig â storipowys.org.uk. Mae hyn yn digwydd pan fyddwch yn ymweld â thudalen gyda chynnwys sydd wedi’i sefydlu gan drydydd parti (er enghraifft fideos YouTube) neu’n defnyddio rhai o’r dolenni i safleoedd rhwydweithio cymdeithasol (e.e. Share This). Gall y gwefannau hyn osod cwcis ar eich cyfrifiadur.
Nid yw Cyngor Sir Powys yn rheoli sut mae trydydd parti yn defnyddio eu cwcis. Dylech wirio polisïau preifatrwydd gwefannau’r trydydd parti hyn am ragor o wybodaeth am eu cwcis os ydych yn poeni am hyn.
Mae Cyngor Sir Powys yn argymell yn gryf nad ydych yn rhwystro unrhyw gwcis o wefannau storipowys.org.uk, gan fod angen y rhain er mwyn i’n safleoedd weithio’n dda ar eich cyfer chi.
Os ydych dal eisiau rheoli pa gwcis ydych chi’n eu derbyn, darllenwch y cyngor am sut i reoli cwcis ar eich cyfrifiadur (nid yw’r cyngor hwn yn cael ei gefnogi gan Gyngor Sir Powys)
Gwefannau eraill
Mae ein gwefan yn cynnwys dolenni o wefannau eraill. Mae’r polisi preifatrwydd hwn ond yn gymwys i’r wefan hon felly os ydych yn cysylltu â gwefannau eraill, dylech ddarllen eu polisïau preifatrwydd eu hunain.
Newidiadau i’n polisi preifatrwydd
Rydym yn adolygu ein polisi preifatrwydd yn rheolaidd a byddwn yn gosod unrhyw ddiweddariadau ar y dudalen we hon.