Gallwch argraffu pob math o bethau – ffeiliau PDF, dogfennau, ffotograffau a hyd yn oed tudalennau gwe. Gwnewch yn siŵr nad yw eich print yn fwy na’n cyfyngiad ar faint y ffeil sef 100 MB.
Argraffu Diwifr
Gallwch nawr argraffu’n ddiwifr o’ch dyfais ym mhob un o’n llyfrgelloedd.
P’un a oes angen i chi argraffu tocyn byrddio neu boster, mae hynny’n bosibl gyda’n cyfleusterau argraffu Wi-Fi.
Sut ydw i’n argraffu’n ddiwifr?
Rydym yn cynnig dau opsiwn argraffu hunanwasanaeth diogel i wneud argraffu’n gyflym ac yn gyfleus:
Opsiwn 1: Argraffu Cwmwl:
Mae’r opsiwn hwn yn caniatáu ichi argraffu’n ddiwifr o’ch dyfais eich hun tra byddwch chi yn y llyfrgell.
- Cysylltu â’n Wi‑Fi am ddim: Gwestai Powys. Darganfyddwch sut i fynd ar-lein yma: Ewch Ar-lein – Powys
- Agorwch y ffeil rydych chi am ei hargraffu a dewiswch ‘Rhannu’.
- Dewiswch yr opsiwn ‘Argraffu’.
- Dewiswch yr argraffydd ar gyfer y llyfrgell rydych chi’n argraffu ohoni.
- Talwch wrth y ddesg. Yna bydd aelod o staff yn rhyddhau eich argraffiad.
Opsiwn 2: Argraffu Porwr:
Mae’r opsiwn hwn yn caniatáu ichi uwchlwytho’ch ffeiliau’n ddiogel o unrhyw le a’u casglu o’r llyfrgell.
- Ewch i: https://powys.docprint.uk/upload/
- Mewngofnodwch gan ddefnyddio rhif eich cerdyn llyfrgell a’ch PIN. Os nad ydych chi’n gwybod eich manylion, gofynnwch i aelod o staff. Ddim yn aelod o’r llyfrgell eto? Gallwch gofrestru ar-lein yma: spydus.co.uk/cgi-bin/spydus.exe/MSGTRN/OPAC/JOIN
- Dewiswch ‘Dewis ffeil’ ac uwchlwythwch y ffeil(iau) rydych chi am eu hargraffu.
- Dewiswch ‘Uwchlwytho ffeil’.
- Ewch i’r llyfrgell, talwch wrth y ddesg, a bydd aelod o staff yn rhyddhau eich darn argraffu.
Beth alla’ i ei argraffu?
O ba ddyfeisiau y gallaf argraffu?
You can print from all Windows, Android, MacOS and iOS devices.
Faint mae argraffu yn ei gostio?
Mae argraffu diwifr yn costio’r un faint ag argraffu o un o’n cyfrifiaduron personol – 40c ar bob ochr lliw ac 20c am bob ochr du a gwyn.
Rhagor o wybodaeth
I gael rhagor o wybodaeth am ein gwasanaeth argraffu diwifr, siaradwch â staff yn ein llyfrgelloedd.