Yn dilyn llwyddiant y llynedd, mae’r prosiect “Ser y Silffoedd” wedi dychwelyd unwaith eto, gan barhau â’i genhadaeth i sbarduno creadigrwydd a chariad at ddarllen ymhlith plant ar draws Cymru. Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru ac wedi’i gydlynu gan Gyngor Llyfrau Cymru, mae’r fenter yn gwahodd awduron adnabyddus i gyflwyno gweithdai rhyngweithiol i blant ysgol mewn llyfrgelloedd ledled y wlad.
Gan redeg hyd at ddiwedd Mawrth 2026, mae rhaglen eleni unwaith eto wedi dod â rhestr gref o dalent lenyddol i Bowys. Mae awduron megis Siôn Tomos Owen – Bardd Plant Cymru ar hyn o bryd – Eloise Williams, Jenny Valentine, a Rhian Cadwaladr i gyd wedi cymryd rhan, gan gynnig sesiynau bywiog sydd wedi’u cynllunio i ysbrydoli darllenwyr ifanc a beirdd a llenorion mewn tyfiant rhwng 7 ac 12 oed.
Mae’r ymateb wedi bod yn hynod o gadarnhaol. Mae plant o fwy na 20 o ysgolion eisoes wedi cymryd rhan, gyda llawer o ddisgyblion yn mwynhau’r cyfle prin i gwrdd ag awduron cyhoeddedig, gofyn cwestiynau, a dysgu mwy am y broses o ysgrifennu.
Y tu hwnt i gyffro cyfarfod ag awduron wyneb yn wyneb, mae’r prosiect hefyd wedi annog cannoedd o blant i gamu i mewn i’w llyfrgelloedd lleol – i lawer ohonynt am y tro cyntaf erioed. Mae staff yn gobeithio y bydd y profiad yn helpu i feithrin cysylltiadau parhaol â llyfrgelloedd ac yn rhoi’r hyder i bobl ifanc ddychwelyd eto.
Dywed Cyngor Llyfrau Cymru fod y prosiect yn parhau i chwarae rôl bwysig wrth gefnogi llythrennedd, creadigrwydd ac ymgysylltiad diwylliannol ar draws y wlad, yn ogystal ag amlygu’r rôl hanfodol y mae llyfrgelloedd yn ei chwarae mewn cymunedau lleol.
Wrth i “Ser y Silffoedd” barhau trwy’r gwanwyn, bydd hyd yn oed mwy o ddarllenwyr ifanc ledled Powys yn cael y cyfle i ddarganfod hud llyfrau — ac efallai ddechrau ar daith greadigol eu hunain.