Sefydlwyd bwrdeistrefi canoloesol gan siarteri a oedd yn rhoi sail i’w pwerau hunanlywodraethu.
Cofnodion Swyddogol

Bwrdeistrefi
Darllen mwy

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Darllen mwy

Awdurdodau Claddu
Sefydlwyd y Byrddau Claddu dan Ddeddfau Claddu 1853. Dan y Deddfau hyn, roedd yr awdurdodau lleol yn gallu sefydlu a gweinyddu eu mynwentydd eu hunain.
Darllen mwy

Comisiwn Elusennau
Dan Ddeddfau Ymddiriedolaethau Elusennol 1853 ac 1855, roedd rhaid i bob elusen anfon cyfrifon blynyddol at Fwrdd y Comisiynwyr Elusennol.
Darllen mwy

Cofnodion Plwyfi Sifil a Threfgorddau
O’r unfed ganrif ar bymtheg hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y cyfarfodydd misol eglwysig fyddai’n goruchwylio’r weinyddiaeth eglwysig a sifil ar lefel y plwyf.
Darllen mwy

Cofnodion Cwnstabliaeth
Sefydlwyd Cwnstabliaethau Sirol cyflogedig am y tro cyntaf gan Ddeddf Heddlu Sirol Peel ym 1839, a chan yr Ynadon Heddwch.
Darllen mwy

Cynghorau Sir
Sefydlwyd Cynghorau Sir gan Ddeddf Llywodraeth Leol 1888, i redeg llawer o swyddogaethau gweinyddol y Sesiynau Chwarter. Cyfunwyd tair sir Brycheiniog, Maldwyn a Maesyfed i lunio sir newydd Powys yn sgil aildrefnu llywodraeth leol ym 1974.
Darllen mwy

Cynghorau Dosbarth
Yn dilyn diddymu’r cynghorau dosbarth trefol a gwledig, sefydlwyd y rhain ym 1974. Cafodd y rhain hefyd eu diddymu yn eu tro yn 1996 pan grëwyd yr awdurdodau unedol.
Darllen mwy

Addysg: Byrddau Ysgol
Gallai Byrddau Ysgolion, a sefydlwyd dan Ddeddf Addysg Elfennol 1870, mewn ardaloedd heb ddarpariaeth ysgol wirfoddol ddigonol, godi cyfradd leoli i dalu am ysgolion newydd.
Darllen mwy

Addysg: Ysgolion
Yma cewch grynodeb o’r hyn sydd gennym ar ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, sefydliadau addysgu bellach, colegau ac ysgolion arbennig. Am fanylion llawn cysylltwch ag Archifau Powys.
Darllen mwy

Byrddau Priffyrdd
Festri’r plwyf oedd yn gyfrifol am briffyrdd hyd at 1835 wrth i Ddeddf Priffyrdd alluogi plwyfi i gyfuno a chreu awdurdodau priffyrdd.
Darllen mwy

Priffyrdd: Ymddiriedolaethau Tyrpeg
Ymddangosodd y cwmniau tyrpeg yn yr ail ganrif ar bymtheg, fel arfer gan Ddeddfau Senedd preifat.
Darllen mwy

Yr Arglwydd Raglaw a’r Fyddin Sir
Penodiad y Goron oedd swydd Arglwydd Raglaw’r Sir. Ef oedd yn gyfrifol am y fyddin sir, sefydliad a grëwyd i bob pwrpas gan fesur Militia 1757.
Darllen mwy

Byrddau Iechyd Lleol
Sefydlwyd byrddau iechyd lleol yn dilyn Deddf Iechyd y Cyhoedd 1848 a Deddf Llywodraeth Leol 1858, mewn ardaloedd poblog sydd heb festri neu gyngor trefi, neu gan gomisiynwyr gwella.
Darllen mwy

Cyfraith Wael: Byrddau Gwarcheidwaid
Sefydlwyd tlotai’n gyntaf gan Ddeddf 1723. Yn 1782 roedd Deddf Gilbert yn galluogi plwyfi gwledig i uno i greu undebau ac i sefydlu tlotai diwygiedig, neu ‘go iawn’.
Darllen mwy

Cynghorau Dosbarth Trefol a Gwledig
Ymddangosodd y cynghorau hyn yn sgil Deddf Llywodraeth Leol 1894, pan ddaethant yn gyfrifol am waith awdurdodau iechydol trefol a gwledig gynt (gweler Byrddau Iechyd Lleol).
Read more