Am Y Wladfa Newydd / Culture Colony
Mae gan Y Wladfa Newydd 30 mlynedd o brofiad o wneud rhaglenni ar gyfer teledu * ac erbyn hyn maent yn canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar y celfyddydau a’r amgylchedd gan greu cynnwys fideo ar-lein. Mae YWN yn gwneud ffilmiau ar gyfer a gydag artistiaid unigol, grwpiau artistiaid a sefydliadau celfyddydol mawr. Mae’r ffilmiau hyn yn amrywio o ddogfennaeth fer a ffilmiau hyrwyddo i raglenni dogfen swmpus cynhwysfawr. Gellir dod o hyd i’r holl ffilmiau hyn ar wefan Culture Colony. Mae YWN yn gwmni cynhyrchu fideo sy’n gwneud ffilmiau am y celfyddydau, yr amgylchedd neu’r gymuned a, thrwy’r wefan, mae hefyd yn llwyfan ar-lein ar gyfer rhannu cynnwys sy’n gwasanaethu’r sector creadigol.
* Daw profiad teledu Culture Colony o gefndir ei sylfaenydd Pete Telfer o gyfarwyddo ar gyfer y BBC yn gynnar yn y 90au, yna mynd ar ei liwt ei hun a gweithio i lawer o ddarlledwyr a chwmnïau cynhyrchu annibynnol, hyd at gyd-sefydlu Pixel Foundry yn 2004 a ddaeth wedyn yn Culture Colony yn 2010.

