Trysorau Maldwyn

Adnoddau Hanes Lleol a Hanes Teulu yn Llyfrgell y Drenewydd

Yn Llyfrgell y Drenewydd mae Casgliad Astudiaethau Lleol Sir Drefaldwyn.

Cedwir y casgliad yn Trysorau Maldwyn, man sydd wedi’i neilltuo ar gyfer eich ymchwil i hanes lleol a hanes teulu.

Mae’r Gymraeg ‘Maldwyn’ (yn Saesneg, Montgomeryshire) yn deillio o’r enw Cymraeg ar dref sirol Trefaldwyn: Tre-Faldwyn neu ‘Dref Baldwyn’. Mae’r enw’n dyddio yn ôl i’r adeg pan oedd y dref ym meddiant Baldwyn de Boulers yn dilyn y Goncwest Normanaidd.

Pryd ydych chi ar agor?

Gallwch ymweld ag ystafell Trysorau Maldwyn / Montgomeryshire Treasures pryd bynnag y bydd Llyfrgell y Drenewydd ar agor (darganfod oriau agor Llyfrgell y Drenewydd yma). Mae staff wrth law i helpu fel arfer, er y byddai’n fuddiol I chi ffonio o flaen llaw os hoffech chi gael cymorth.

Methu ymweld â ni?

Os na allwch ddod i mewn atom, gallwch fanteisio are ein Gwasanaeth Ymchwil.

Just need a few copies?

If you need copies for private research, you can order them from us – phone 01686 626 934 or email us for more information. We may not be able to deal with large requests, but please contact us to find out if we can help. For simple requests, there will be a charge of £1 per A4 copy + postage.

Mae casgliad Trysorau Maldwyn yn cynnwys:

  • The Montgomeryshire Collections (Trafodion Clwb Powysland). Mae’r rhain yn fan cychwyn cynhwysfawr, gyda mynegai da, ar gyfer ymchwilio i’r ardal.
  • Canlyniadau cyfrifiad Sir Drefaldwyn o 1841-1901 ar feicroffilm. Mae gennym 2 ddarllennydd meicroffilm, a gellir defnyddio un i argraffu. .
  • Mae amrywiaeth o Gyfeirlyfrau Masnach y sir, 1822-1936, hefyd ar fiche.
  • Casgliad o Fapiau Sir Drefaldwyn: 1901 Mapiau OS 6” i’r filltir, a 25” i’r filltir.
  • Papurau newydd lleol – cyfuniad o gyfrolau rhwymedig a meicroffilm yn dyddio o 1869.
  • Casgliad o effemera hanes lleol (taflenni, cylchlythyrau, posteri, printiau ac yn y blaen).
  • Cyfeirlyfrau a llyfrau benthyg am yr ardal.
  • Gallwch weld cofnodion ar ANCESTRY a FINDMYPAST am ddim o unrhyw gyfrifiadur cyhoedus yn y llyfrgell.

I ddarganfod rhagor am Astudiaethau Lleol Brycheiniog neu Faesyfed, gwelwch ein tudalen Astudiaethau Lleol.

Mae Archifau Powys yn gwasanaethu fel storfa swyddogol cofnodion sir Powys – darganfod rhagor am gasgliad Archifau Powys yma.

‘Mae pobl nad oes ganddynt wybodaeth o’u hanes, eu tarddiad a’u diwylliant fel coeden heb wreiddiau’

Marcus Garvey