Achau
Gall aelodau’r llyfrgell gael mynediad i Ancestry o gyfrifiaduron yn llyfrgelloedd Powys.
Gwasanaeth Ymchwil ac Astudiaethau Lleol yn Llyfrgelloedd Powys
Mae gan ein holl lyfrgelloedd rywfaint o ddeunydd o ddiddordeb lleol yn ogystal â mynediad am ddim i Ancestry. Rhestrir cyhoeddiadau Astudiaethau Lleol yng nghatalog y llyfrgell.
Llyfrgell Aberhonddu sy’n cadw’r casgliad astudiaethau lleol ar gyfer Sir Frycheiniog, gyda llyfrau cyfeirio a llyfrau i’w benthyca ar gael. Mae’r casgliad yn cynnwys:
Mae gan Lyfrgell Llandrindod rywfaint o ddeunydd ar gyfer Sir Faesyfed, er y byddwch yn canfod llawer mwy yn Archifau Powys, hefyd yn Llandrindod, sy’n cadw’r Archifau a Chofnodion Lleol ar gyfer Powys gyfan.
Mae Llyfrgell Ystradgynlais yn cadw’r papur newydd Llais (1898-1971) a’r Cambrian News ar ficroffilm neu fiche. Gellir defnyddio’r darllenydd microffilm/microfiche i wneud allbrintiau os oes angen.
Mae Llyfrgell y Drenewydd yn cadw Trysorau Maldwyn, gofod ac adnoddau pwrpasol ar gyfer eich anghenion ymchwil hanes lleol a theuluol
Gall aelodau’r llyfrgell gael mynediad i Ancestry o gyfrifiaduron yn llyfrgelloedd Powys.
Gwasanaethau Ymchwil Astudiaethau Lleol
Os na allwch ddod i mewn i’r llyfrgell, gallwn ddal i wneud ymchwil ar eich rhan. Ar gyfer ymchwil yn ymwneud â:
Mae chwiliadau penodol megis chwilio am gofnodion ar ffurflenni cyfrifiad yn gyflym a ddiffwdan.
Gellir gwneud chwiliadau hirach e.e. am ddigwyddiad neu leoliad penodol, neu chwiliad papur newydd ond efallai byddant yn cymryd yn hirach.
Ni allwn ddelio gyda cheisiadau cyffredinol megis twf a datblygiad tref. Gall y Llyfrgellydd Cangen wrthod cais am chwiliad neu gyfyngu maint yr amser y gellir ei dreulio arno.
Pan fydd chwiliad wedi’i gwblhau byddwn yn anfon adroddiad, trwy e-bost neu drwy’r post, gan roi manylion y ffynonellau a wiriwyd a’r wybodaeth a ddarganfuwyd. Byddwn hefyd yn cynnwys y bil ar gyfer yr ymchwil. Ein nod yw ateb pob cais o fewn pedair wythnos.
Bydd ceisiadau trwy’r post neu dros y ffon am y cofnodion a sut y gellir eu defnyddio ar gyfer ymchwil am ddim.
Costau ymchwil £20.00 am hanner awr (hyd at ddwy awr). Mae’n rhaid i chi dalu’r ffi hyd yn oed os nad oes unrhyw ganlyniadau positif o’r chwiliad. Os ydych angen rhagor o waith ymchwil ar ôl derbyn yr adroddiad cyntaf, gallwch wneud cais amdano yn yr un ffordd.
Rydym yn derbyn archebion post neu sieciau’n daladwy i Gyngor Sir Powys.
Gallwch hefyd dalu ar-lein gan ddefnyddio Cyfleuster Taliadau Ar-lein Cyngor Sir Powys. Peidiwch â thalu nes bod yr ymchwil wedi’i chwblhau.
Gallwch gyflwyno eich gofynion ymchwil trwy ffurflen gais ar-lein, neu llenwch y ffurflen a’i dychwelyd yn y post. Ni allwn ddechrau unrhyw ymchwil oni bai bod ffurflen gais wedi dod i law.
Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru gasgliad gwych o wybodaeth, ar gael yn llawn ac ar-lein, gan gynnwys Cylchgronau Cymraeg, Papurau Newydd Cymraeg (gallwch chwilio o blith 15 miliwn o erthyglau o 1804 i 1919), Bywgraffiadur Cymreig, Ewyllysiau a Llawysgrifau, Baledi Cymru Ar-lein, a llawer mwy.
Gallwn roi gwybodaeth i chi am y cofnodion a ffynonellau eraill sydd gennym a sut y gellir eu defnyddio ar gyfer ymchwil, ac mae’r wybodaeth hon am ddim.