Helfa Drysor: Allwch chi ddod o hyd i’r gwneuthurwyr cerddoriaeth hyn?
Digwyddiad cymunedol
13 Awst @ 9:30 yb - 5:00 yp
Am ddim
Codwch daflen weithgareddau i’w defnyddio gyda chymeriadau ‘Read to the Beat’ sydd wedi’u cuddio o amgylch y llyfrgell!
Croeso i Her Ddarllen yr Haf! Cymerwch ran ar-lein neu yn eich llyfrgell leol:
Her Ddarllen yr Haf 2026 yw ‘Read to the Beat’; caiff ei chyflwyno gan The Reading Agency mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus ac fe’i cefnogir gan Universal Music Group UK. Mae’r thema yn ysbrydoli plant i archwilio’r cysylltiad rhwng straeon a chaneuon, gan ddarganfod sut mae darllen a cherddoriaeth ill dau yn tanio dychymyg a chreadigrwydd.
Daw Her eleni yn fyw drwy ddarluniadau gan yr awdur a’r darlunydd arobryn, Harry Woodgate.
Gwybodaeth am gadw lle
Sesiwn galw heibio