Triciau a Llwybrau: Helfeydd Trysor Arswydus, Straeon Direidus a Chrefft Frawychus
24 Hydref @ 10:00 yb - 1 Tachwedd @ 4:00 yp
Am ddim
Rhaglen wythnos o hyd o weithgareddau teuluol am ddim ar gyfer Calan Gaeaf!
1. Llwybr amgueddfa hunan-dywysedig, sy’n gwahodd ymwelwyr i chwilio am amrywiaeth o greaduriaid o’r byd naturiol ar thema Calan Gaeaf; gan gynnwys ystlumod, pryfed cop, nadroedd a thylluanod, wedi’u cuddio ledled orielau’r amgueddfa.
2. Cyfres o Deithiau Tywys Straeon Arswydus drwy gelloedd hanesyddol islawr yr amgueddfa. Gan dynnu ar dreftadaeth y safle fel hen lys barn a chelloedd cadw, bydd y sesiynau hyn ar gyfer oedolion a phlant yn defnyddio adrodd straeon i rannu hanes lleol am orffennol unigryw’r adeilad, mewn ffordd hwyliog ac ysgafn. Cynhelir teithiau i oedolion ddydd Mawrth 27 Hydref a theithiau plant ddydd Iau 29 Hydref, gellir archebu ymlaen llaw.
3. Ardal grefft bwrpasol i blant a theuluoedd greu addurniadau a chrefftau ar thema frawychus gan ddefnyddio deunyddiau amgylcheddol cynaliadwy.