UNDEB O DDYFRLLIW
Digwyddiad cymunedol
Tachwedd 1, 2026 @ 10:00 yb - Chwefror 27, 2027 @ 3:30 yp
Am ddim
Yn yr arddangosfa hon, mae Cymdeithas Frenhinol Dyfrlliw Cymru yn ymuno â The Royal Watercolour Society a The Royal Scottish Society of Painters in Watercolour.
Mae gan y tair cymdeithas ddyfrlliw nawdd Brenhinol gan Ei Fawrhydi’r Brenin Siarl III. Nod yr arddangosfa hon yw arddangos ac annog datblygiad dyfrlliw mewn gwahanol arddulliau – o waith beiddgar a hyderus, llac a rhydd, i waith haniaethol, manwl iawn, cywir iawn a botanegol. Mae’r posibiliadau o ran defnyddio dyfrlliw yn ddiddiwedd, a’r unig derfyn yw’r dychymyg.