Drysau Agored CADW yn Archifau Powys, Dydd Sadwrn 26 Medi, 10am i 1pm
26 Medi @ 10:00 yb - 1:00 yp
Am ddimEwch i ymweld ag Archifau Powys rhwng 10am ac 1pm ddydd Sadwrn 26ain o Fedi ar gyfer ein digwyddiad Drysau Agored CADW am ddim.
Galwch heibio am ddim Byddwn yn cynnig cyfle i weld y tu ôl i’r llenni o’n prosiect digidol a chatalogio newydd yn datgelu gwaith y ffotograffydd lleol o Bowys, Ernie Husson, yn ogystal â rhai o ganlyniadau ein prosiect argraffu model 3D hygyrchedd diweddar. Mae rhywbeth i’r teulu cyfan ei ddarganfod!
Gellir archebu: Byddwn hefyd yn cynnig teithiau y tu ôl i’r llenni, yn y storfeydd archifau, am 10.30 a 11.30 – os hoffech archebu lle ar un o’r rhain, ffoniwch ni ar 01597 826088 neu anfonwch e-bost atom yn: archive@powys.gov.uk.
Bydd lluniaeth am ddim hefyd ar gael ar y diwrnod.
Mae’r digwyddiad Drysau Agored hwn yn rhan o ddathliad o archifau Cymru drwy brosiect Archifau Cymru Byw a gynhelir ym mis Medi 2026. Mae archifau ar gyfer pawb, felly ymunwch â ni os oes gennych ddiddordeb mewn hanes, treftadaeth, diwylliant a chreadigrwydd!
Gwybodaeth am gadw lle
Ffoniwch ni ar 01597 826088 neu anfonwch e-bost atom yn: archive@powys.gov.uk.