Mae teuluoedd ledled Powys yn cael eu gwahodd i fanteisio i’r eithaf ar wyliau haf ysgolion gyda rhaglen lawn o weithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau yn llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau’r sir.
P’un a ydych chi’n chwilio am weithgareddau creadigol, diwrnod allan gyda’r teulu, cyfleoedd i archwilio hanes lleol, neu ffyrdd o gadw diddordeb y plant dros wyliau’r haf, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau. Ac mae pob un ohonynt yn rhad ac am ddim, felly ni fydd cyllideb y teulu yn dioddef.
Un o uchafbwyntiau’r haf yw dychweliad Sialens Ddarllen yr Haf, sy’n annog plant i ddarganfod llawenydd darllen yn ystod y gwyliau. Gwahoddir teuluoedd i ymweld â’u llyfrgell leol i gofrestru a chymryd rhan yn yr her eleni, gan helpu darllenwyr ifanc i fagu hyder, dychymyg a chariad gydol oes at lyfrau wrth ennill gwobrau ar hyd y ffordd.
Dewch o hyd i’ch llyfrgell agosaf: https://storipowys.org.uk/visit-us/libraries/?lang=cy
Yn y Trallwng, mae amgueddfa’r Lanfa yn croesawu ymwelwyr bellach wrth i’r gwaith barhau i gwblhau’r arddangosfeydd. Bydd teuluoedd yn gallu gweld sut mae’r arddangosfeydd yn cael eu rhoi at ei gilydd, gan roi golwg y tu ôl i’r llenni iddynt ar waith yr amgueddfa a sut mae arddangosfeydd yn cael eu creu a’u gofalu.
Gall ymwelwyr hefyd fwynhau cyffro ‘Celf Meg Stevens: Arddangosfa Natur a Thirweddau Lleol yn y Gaer, Aberhonddu, sy’n cynnig cyfle gwych i brofi gwaith un o artistiaid cyfoes enwocaf Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am yr arddangosfa ar gael yn: https://storipowys.org.uk/event/celf-meg-stevens-natur-a-thirweddau-lleol/?lang=cy
Yn ogystal â gweithgareddau a digwyddiadau, sy’n cynnwys cerddoriaeth, crefftau, Lego, straeon a rhigymau, a helfeydd trysor, anogir teuluoedd i ofyn yn eu llyfrgell leol am fenthyg amrywiaeth o eitemau defnyddiol a allai fod ar gael, gan gynnwys beiciau cydbwysedd, bagiau chwaraeon a bagiau Boromi. Mae argaeledd yn amrywio yn ôl lleoliad, felly dylai preswylwyr wirio gyda’u llyfrgell agosaf i ddarganfod beth y gellir ei fenthyg.
I gael gwybodaeth am ddigwyddiadau a gweithgareddau sy’n digwydd yn ystod gwyliau’r haf, ac i weld y rhaglen lawn, ewch i https://storipowys.org.uk/whats-on/?lang=cy neu cysylltwch â’ch gwasanaeth llyfrgell, amgueddfa neu archif Powys lleol.
PENNAWD Y LLUN: Paratoadau yn cael eu gwneud i arddangosfeydd yn yr amgueddfa yn Y Lanfa, gan y Curadur Andrew Deathe, sydd bellach i’w gweld wrth i’r gwaith fynd rhagddo i’w cwblhau.