Mae Fast Track Powys, dan arweiniad sefydliadau partner yn gweithio gyda’i gilydd i dreialu dull newydd i wneud cymorth iechyd rhywiol yn haws ei gyrchu ledled y sir.
Mae Cyngor Sir Powys a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cynnig profion iechyd rhywiol a phecynnau post, nad ydynt yn tynnu sylw, mewn nifer o lyfrgelloedd ledled Powys.
Nod y cynllun peilot yw helpu i normaleiddio sgyrsiau ynghylch iechyd a lles a lleihau stigma a all fodoli o hyd ynghylch iechyd rhywiol a phrofion.
Gall preswylwyr gasglu pecynnau profi iechyd rhywiol am ddim yn uniongyrchol o lyfrgelloedd sy’n cymryd rhan, a’u cwblhau gartref, gan gynnig opsiwn preifat a hygyrch.
Bydd y cynllun peilot yn cael ei gynnal i ddechrau ym Machynlleth, y Trallwng, Llanandras, Rhaeadr Gwy, Aberhonddu ac Ystradgynlais, gyda dysgu o’r prosiect yn helpu i lunio mentrau iechyd cymunedol yn y dyfodol.
Mae’r fenter yn rhan o raglen bartneriaeth ehangach Fast Track Powys, sy’n dod â sefydliadau at ei gilydd i wella canlyniadau iechyd, cynyddu ymwybyddiaeth a mynediad at HIV a phrofion iechyd rhywiol, a mynd i’r afael â stigma o fewn cymunedau ledled Powys.
Ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd Richard Church, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cyfreithiol a Rheoleiddio a Chadeirydd Grŵp Llywio Fast Track Powys a’r Cynghorydd Raiff Devlin, Aelod Cabinet dros Gwsmeriaid, Gwasanaethau Digidol a Chymunedol: “Mae’r gwaith partneriaeth hwn yn dangos yr hyn y gallwn ei gyflawni pan fydd sefydliadau ledled Powys yn dod at ei gilydd gyda nod a rennir. Trwy wneud profion iechyd rhywiol yn fwy hygyrch mewn mannau cymunedol dibynadwy fel llyfrgelloedd, rydym yn helpu i chwalu stigma a rhwystrau, wrth gefnogi pobl i gymryd rheolaeth o’u hiechyd mewn ffordd sy’n addas iddynt. Mae’r cynllun peilot hwn yn gam pwysig i wella lles ar draws ein cymunedau a sicrhau bod gwasanaethau yn haws i bawb gael eu cyrchu.”
Lluniau O’r chwith – i’r dde Sian Pratten, Arweinydd Gweithredol Gwasanaethau Diwylliannol | Angharad Pickering, Swyddog Diogelu Iechyd a Lles Cymunedol.