Gwirfoddolwyr Sialens Ddarllen yr Haf
Gwirfoddolwyr 14-25 oed. Canol Gorffennaf i ddiwedd Awst
Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn cael ei datblygu gan The Reading Agency, a phob blwyddyn mae miloedd o blant yn cymryd rhan trwy eu llyfrgell leol. Thema yr haf hwn yw Darllen i’r Curiad /Read to the Beat, sy’n dathlu cerddoriaeth, rhythm a chreadigrwydd – gan annog plant i ddarganfod straeon newydd a mwynhau darllen drwy gydol y gwyliau.
Beth yw’r cyfle?
Ymunwch â’ch llyfrgell leol ym Mhowys a helpwch deuluoedd i gymryd rhan yn Sialens Ddarllenyr Haf. Byddwch yn cefnogi plant 4-11 oed wrth iddynt gofrestru, dewis llyfrau, a chymryd rhan yn y gweithgareddau eleni. Mae’n ffordd wych o adeiladu profiad, datblygu sgiliau, a chyfrannuat brosiect cymunedol sy’n ysbrydoli darllenwyr ifanc.
Pwy all wneud cais?
Unrhyw un rhwng 14 a 25 oed sydd:
• yn gyfeillgar, hawdd mynd atynt ac yn ddibynadwy
• yn gyfforddus wrth feithrin perthynas â phlant a theuluoedd
• yn barod i gymryd rhan a dysgu ar hyd y daith
• yn ymddiddori mewn llyfrau, darllen, cefnogi cymuned, neu ennill profiad
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol – bydd arweiniad a chefnogaeth lawn yn cael eu darparu.
Beth fyddwch chi’n ei wneud
• Croesawu plant a theuluoedd a’u helpu i gofrestru ar gyfer y sialens
• Dosbarthu deunyddiau ac olrhain cynnydd plant
• Creu arddangosfeydd sy’n gysylltiedig â’r thema “Darllen i’r Curiad / Read to the Beat”
• Paratoi adnoddau ar gyfer gweithgareddau (gan gynnwys sesiynau crefft neu gerddoriaeth)
• Cefnogi staff yn ystod digwyddiadau’r llyfrgell
• Helpu i gadw’r ardal blant yn drefnus
Sut fyddwch chi’n elwa
• Profiad o weithio gyda theuluoedd a’r cyhoedd
• Sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm
• Hyder mewn rôl brysur,sy’n wynebu cwsmeriaid
• Y cyfle i wneud gwahaniaeth ystyrlon i hyder plant o ran eu darllen
• Byddwch yn gallu gofyn am eirda ar ôl cwblhau eich sesiynau dros yr haf, a all helpu gyda
phethau fel cais am swydd, prentisiaeth, neu ddatganiad personol UCAS.
Hyfforddiant a chefnogaeth
• Sefydlu i’ch helpu i setlo i mewn
• Cefnogaeth barhaus gan staff ar y safle
• Canllawiau clir trwy gydol eich cyfnod yn gwirfoddoli
• Bydd angen gwiriad DBS uwch ar gyfer gwirfoddolwyr 16–25 oed (wedi’i drefnu gennym ni)
Ymrwymiad amser
Yn ddelfrydol, 1-3 awr yr wythnos o ganol Gorffennaf i ddiwedd Awst. Manylion i’w cadarnhau pan fyddwn yn cwrdd â chi.
Os ydych chi’n dal yn ansicr neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, peidiwch ag oedi i gysylltu â llyfrgell leol Powys a byddan nhw’n hapus i helpu.