Rydym yn dechrau casglu eich straeon yn Stori Powys i adlewyrchu amrywiaeth y lleisiau ym Mhowys. Hoffem ymhelaethu ar leisiau a straeon na fyddent fel arfer yn cael eu clywed.
Rydym yn dechrau gyda Howard, a aned yn 1935, ac sy’n awyddus i ddangos ei gasgliad o ddarnau arian gwerthfawr. Wrth chwilio drwy ei ddarnau arian, mae’n rhannu straeon am brynu darn arian i nodi gadael y ‘San’ yng Nghaerfyrddin ac ennill deg ffyrling yn Ffair Aberhonddu. O fod yn ffermwr yng Nghaerfyrddin, priododd ferch o Aberhonddu a daeth yma i fyw. Gweithiodd fel dyn biniau cyn symud ymlaen i weithio gyda phlant ag anawsterau dysgu, ac roedd wedi gweld y profiad hwnnw’n werthfawr iawn.
Os hoffech rannu eich stori, anfonwch e-bost.