Wythnos Ymwybyddiaeth o Unigrwyd

10 Gorff 2026

15 – 20 Mehefin weld Wythnos Ymwybyddiaeth o Unigrwydd, yr ymgyrch fwyaf yn y byd i ysbrydoli sgyrsiau am unigrwydd a hyrwyddo gweithgareddau cysylltiad. Mae unigrwydd yn emosiwn dynol arferol sy’n codi pan fydd gwahaniaeth yn y perthnasoedd rydyn ni eu heisiau a’r rhai sydd gennym. Bydd y rhan fwyaf o bobl yn profi unigrwydd ar ryw adeg yn eu bywydau, hyd yn oed am gyfnodau byr o amser.

Caiff unigrwydd ac ynysu cymdeithasol eu cydnabod fel heriau iechyd cyhoeddus sylweddol, gydag effeithiau negyddol eang ar iechyd a lles unigolion a chymunedau. Mewn cyferbyniad, mae cysylltiadau cymdeithasol cryf yn allweddol i iechyd corfforol a meddyliol da, lles a gwytnwch.

5 Egwyddor Lles (Sefydliad Economeg Newydd):
Cysylltu – mae cysylltu ag eraill yn meithrin ymdeimlad o berthyn a chefnogaeth.
Bod yn actif – mae ymarfer corff yn rhyddhau endorffinau, sy’n helpu i leihau straen a gwella ein hwyliau cyffredinol.
Cymryd sylw – mae bod yn bresennol ac wedi ymgysylltu’n llawn yn y foment yn cyfoethogi ein profiadau bob dydd.
Dal ati i ddysgu – mae cymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n herio’ch meddwl yn rhoi hwb i’ch hunan-barch ac yn cadw’ch ymennydd yn weithredol.
Rhoi – gall yr emosiynau cadarnhaol sy’n gysylltiedig â helpu eraill wella ein hiechyd meddwl ac emosiynol yn sylweddol.

Mae cymunedau a mannau cymunedol yn chwarae rhan hanfodol wrth gau’r bwlch datgysylltiad ac adeiladu cysylltiadau cymdeithasol cryfach. Mae darparu amrywiaeth o weithgareddau, grwpiau a digwyddiadau cymunedol hygyrch yn caniatáu i bobl gwrdd a gwneud cysylltiadau â gwahanol bobl, rhannu sgiliau a theimlo’n dda.

Ym Mhowys rydym yn cydnabod gwerth adeiladu cysylltiadau cymdeithasol cryfach. Mae ein gwasanaethau llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau ledled Powys yn darparu ystod eang o weithgareddau, adnoddau a digwyddiadau drwy gydol y flwyddyn y gall unigolion gael mynediad atynt ar bob adeg yn eu bywydau i gefnogi eu hiechyd a’u lles. O glybiau gwau a sgwrsio i gyfleoedd gwirfoddoli, jig-sos cymunedol i arddangosfeydd celf, clybiau gwyddbwyll i sesiynau digidol, mae’r cyfleoedd yn ddiderfyn!