Am Amgueddfa Cerfluniaeth Andrew Logan
Mae Andrew Logan yn gerflunydd a dylunydd a gydnabyddir yn rhyngwladol, sydd ers bron i 60 mlynedd wedi syfrdanu a diddanu cynulleidfaoedd gyda’i greadigaethau pefriog, swynol a drychlyd.
Mae’r Amgueddfa’n gartref i nifer o weithiau o bob rhan o yrfa Andrew, gan gynnwys gwisgoedd a ‘thlysau’r goron’ o’i gyfres chwedlonol o ddigwyddiadau Alternative Miss World. Dysgwch am ei gyfeillgarwch a’i gydweithrediadau â phobl o fyd celf, ffasiwn, ffilm, cerddoriaeth, theatr a dawns. Mae cerfluniau a ysbrydolwyd gan Zandra Rhodes, Divine, y Fonesig Sian Philips a llawer mwy yn cyd-fynd â chreadigaethau swreal, doniol, hudolus a beiddgar.
Dywed Andrew Logan fod ei waith yn ymwneud â ‘llawenydd’, a’r Amgueddfa yw’r lle i rannu hynny â phawb.