Amgueddfa Sir Faesyfed

Dysgwch fwy am y gwaith pwysig y mae amgueddfeydd Powys yn eu gwneud i warchod treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y sir.

Trefniadau Dros Dro 

Oherwydd gwaith gwella sy’n cael ei wneud yn yr Amgueddfa, bydd Llyfrgell Llandrindod ac Amgueddfa Sir Faesyfed ar gau o ddydd Llun 23 Tachwedd tan ddydd Gwener 27 Tachwedd.

Bydd yr oriau agor arferol yn ailddechrau: Dydd Sadwrn 28 Tachwedd

Rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achoswyd a diolchwn i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth wrth i’r gwaith gwella hwn gael ei wneud.

 

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am ein amgueddfeydd a’n gwasanaethau eraill yma. 

Os hoffech gysylltu â ni, gallwch anfon e-bost atom ar radmus@powys.gov.uk neu ein ffonio ar 01597 824513. 

Lleolir Amgueddfa Sir Faesyfed yng nghanol Llandrindod ac mae’n cadw casgliadau sy’n ymwneud â’r hen sir Faesyfed. Lleolir yr amgueddfa yn hen Lyfrgell Gyhoeddus Carnegie. Mae ei chasgliadau yn cynnwys:

Archaeoleg
Casgliad gwych o eitemau o’r cyfnod cynhanesyddol i’r canol oesoedd gan gynnwys Ceufad Llandrindod a Sheela na Gig, casgliad Castell Collen.

Palaeontoleg
Casgliad rhagorol o sbesimenau Ordofigaidd o Fewngraig Llanfair-ym-Muallt-Llandrindod.

Celfyddyd Gain
Yn cynnwys gwaith Thomas Jones, J.M. Ince, William Stone, John Opie, Syr Alfred East, William Mills, Elizabeth a Bryan Organ, Catherine Lyons.

Astudiaeth Natur
Sbesimenau wedi’u cadw yn perthyn i rai o drigolion naturiol Sir Faesyfed ynghyd â chofroddion o hinsoddau mwy egsotig. Cipolwg ar chwaeth a ffasiynau’r gorffennol.

Hanes Milwrol
Arteffactau a gwybodaeth yn ymwneud â dynion a merched Sir Faesyfed a wasanaethodd mewn dau Ryfel Byd a deunydd o Ffrynt Cartref Sir Faesyfed.

Hanes Cymdeithasol
Casgliad cyfoethog ac amrywiol yn cynnwys: casgliad ffotograffig mawr, eitemau’n ymwneud â threftadaeth Sba Llandrindod, Casgliad Cymdeithas Kilvert yn ymwneud â’r dyddiadurwr Fictoraidd enwog, a Thelyn Deires Gymreig odidog John Roberts.

Oriau Agor

dydd Llun
09:30 – 17:00
dydd Mawrth
09:30 – 18:00
dydd Mercher
Ar gau
dydd Iau
09:30 – 17:00
dydd Gwener
09:30 – 17:00
dydd Sadwrn
09:30 – 13:00
dydd Sul
Ar gau
Amgueddfa Sir Faesyfed
Temple Street,
Llandrindod,
Powys
LD1 5DL

Chwilio Casgliadau Amgueddfeydd a Threftadaeth

Archwiliwch ein casgliadau unigryw a dysgu mwy am y dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sy’n cael ei harddangos ar draws amgueddfeydd ym Mhowys