Amgueddfa Llanidloes

Lleolir Amgueddfa Llanidloes mewn adeilad hanesyddol yng nghanol y dref ac mae’n rhannu ei gofod gyda Llyfrgell Llanidloes. Mae’r amgueddfa’n canolbwyntio ar dreftadaeth Llanidloes a Sir Drefaldwyn, gyda chasgliadau sy’n cynnwys crefftau lleol, bywyd domestig a darganfyddiadau archeolegol.

Mae arddangosfeydd yn olrhain datblygiad y dref farchnad hanesyddol a’i rôl yn hanes ehangach y Canolbarth.

Sefydlwyd Amgueddfa Hanes a Diwydiant Lleol Llanidloes ym 1930. Yn wreiddiol, roedd yr Amgueddfa wedi’i lleoli yn Neuadd y Farchnad nes iddi symud i Neuadd y Dref ym 1995.

 

Mae’r amgueddfa bellach wedi’i chydleoli â Llyfrgell Llanidloes, ac mae’n darlunio hanes Bwrdeistref Llanidloes dros y 300 mlynedd diwethaf. Mae’r pethau sydd ar ddangos yn swatio ymhlith silffoedd y llyfrgell, yn arddangos eitemau sy’n ymwneud â gwrthryfel y Siartwyr ym 1839, y pyllau plwm a’r diwydiant gwlân. Mae’r ystafell olaf yn cynnwys tri cas diorama sy’n cynrychioli golygfeydd o ddiwedd oes Fictoria, cegin a golchdy, ystafell barlwr a stydi naturiaethwr.

Oriau Agor

dydd Llun
10:00 – 13:00
dydd Mawrth
Ar gau
dydd Mercher
10:00 – 13:00 a 14:00 – 18:00
dydd Iau
Ar gau
dydd Gwener
10:00 – 13:00 a 14:00 – 16:00
dydd Sadwrn
09:30 – 13:00
dydd Sul
Ar gau
Amgueddfa a Llyfrgell Llanidloes
Llanidloes Town Hall,
Great Oak Street,
Llanidloes,
Powys,
SY18 6BN

Mynd ar Daith Rithwir

Teithiau 360° yn syth o’ch cyfrifiadur. Gweld ein amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a golygfeydd o Bowys o’ch cartref eich hun!

Cliciwch ar y ddelwedd i gychwyn arni.

 

Chwilio Casgliadau Amgueddfeydd a Threftadaeth

Archwiliwch ein casgliadau unigryw a dysgu mwy am y dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sy’n cael ei harddangos ar draws amgueddfeydd ym Mhowys.