Mae Llyfrgelloedd Powys yn paratoi ar gyfer haf cyffrous wrth iddynt lansio ymgyrch recriwtio ar gyfer Gwirfoddolwyr Sialens Ddarllen yr Haf eleni. Mae’r sialens flynyddol, a ddatblygwyd gan yr Asiantaeth Ddarllen, yn annog miloedd o blant i ddarganfod llawenydd darllen yn ystod gwyliau’r ysgol.
Mae’r thema eleni, Cyfrolau’n Canu, yn dathlu cerddoriaeth, rhythm a chreadigrwydd—gan wahodd plant 4–11 oed i archwilio straeon sy’n ysbrydoli dychymyg a symudiad.
Cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn
Mae llyfrgelloedd ledled Powys yn cynnig cyfle i bobl ifanc rhwng 14 a 25 oed i gymryd rhan. Bydd gwirfoddolwyr yn chwarae rôl allweddol yn cefnogi plant a theuluoedd wrth iddynt gofrestru, dewis llyfrau, a chymryd rhan mewn gweithgareddau hwyliog trwy gydol yr haf.
Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol, a darperir cefnogaeth ac arweiniad llawn. Bydd gwirfoddolwyr rhwng 16 a 25 oed yn derbyn gwiriad DBS manwl am ddim a drefnir gan y cyngor.
Adeiladu sgiliau, hyder a phrofiad
Mae cymryd rhan yn gyfle gwych i bobl ifanc feithrin sgiliau cyfathrebu, ennill profiad o weithio gyda theuluoedd, a chyfrannu at brosiect creadigol, sy’n canolbwyntio ar y gymuned. Gall gwirfoddolwyr hefyd ofyn am geirda ar ôl cwblhau eu sesiynau haf – defnyddiol ar gyfer ceisiadau am swyddi, prentisiaethau, neu ddatganiadau UCAS.