Ffyrdd newydd i bobl gael mynediad at ddiwylliant ym Mhowys

16 Tach 2026

Mae gwasanaeth llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau Powys wedi bod yn gweithio ar nifer o brosiectau diweddar sy’n canolbwyntio ar gael gwared ar rwystrau i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd ac yn helpu i wneud y casgliadau’n fwy hygyrch i bawb eu mwynhau.

Ar 30 Hydref, dathlwyd lansiad y datblygiadau hygyrchedd newydd hyn yn y Gaer yn Aberhonddu, ochr yn ochr ag aelodau o’r gymuned, partneriaid, staff a chefnogwyr a helpodd i ddod â nhw’n fyw.

Mae un maes gwaith wedi canolbwyntio ar greu casgliad o atgynhyrchiadau 3D wedi’u hargraffu o arteffactau dethol yr amgueddfa ac archifau. Wedi’u lleoli’n bennaf yn Amgueddfa’r Gaer, ond hefyd yn Amgueddfa Sir Faesyfed ac Archifau Powys, gellir archwilio’r atgynhyrchiadau trwy eu cyffwrdd, gan gynnig profiad mwy rhyngweithiol i ymwelwyr. Maent yn arbennig o werthfawr i bobl sy’n ddall neu’n rhannol ddall, yn ogystal â rhai ymwelwyr niwrowahanol, gan ddarparu ffyrdd newydd o gysylltu â’r casgliadau.

Gan weithio gyda staff, gwirfoddolwyr ac aelodau o’r gymuned leol, mae disgrifiadau clywedol hefyd wedi’u creu ar gyfer gwrthrychau dethol sy’n cael eu harddangos yn y Gaer. Mae’r recordiadau hyn yn dod ag arteffactau yn fyw trwy ddisgrifiadau manwl a diddorol, gan helpu ymwelwyr i adeiladu darlun cliriach o’r gwrthrychau a’u straeon. Mae tri phwynt gwrando clywedol wedi’u gosod ledled orielau’r amgueddfa, gan ddarparu mynediad i 13 o ddisgrifiadau gwrthrychau wedi’u recordio’n arbennig gan bobl leol.

Yn cwblhau’r prosiect mae cyfres newydd o ffilmiau byrion sy’n tynnu sylw at yr ystod eang o wasanaethau sydd ar gael drwy Stori Powys. Ar gael gydag isdeitlau mewn pum iaith, mae’r ffilmiau’n arddangos llyfrgelloedd, adnoddau digidol a gwasanaethau hygyrch Powys, gan helpu mwy o bobl i ddarganfod y cymorth, y cyfleoedd a’r profiadau sydd ar gael, yn ogystal â lleihau’r ofn o’r anhysbys. Bydd y rhain ar gael ar-lein ar Stori Powys yn y dyfodol.

 

Disgrifiad o’r llun: atgynhyrchiadau 3D newydd yn y Gaer

 

Os ydych chi’n ymweld ag Aberhonddu, beth am alw i mewn i’r Gaer ac archwilio’r adnoddau newydd hyn drosoch chi’ch hun? Boed hynny trwy gyffwrdd, sain neu gynnwys digidol, mae mwy o ffyrdd bellach o ddarganfod straeon Powys.