Sialens Ddarllen yr Haf

Camwch i mewn i’r Ardd o Straeon yr haf hwn, lle mae’r dychymyg yn tyfu a straeon yn dod yn fyw!

Sialens Ddarllen yr Haf

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ffordd rhad ac am ddim a hwyliog i blant fwynhau llyfrau a pharhau i ddarllen yn ystod gwyliau’r ysgol. Mae wedi’i chynllunio i gefnogi hyder darllen, ysgogi creadigrwydd, ac annog cariad gydol oes at straeon.

Mae thema eleni, sef Gardd o Straeon, yn gwahodd plant i archwilio creaduriaid hudolus, anturiaethau gwyllt, a rhyfeddodau natur drwy lyfrau y maent yn eu dewis eu hunain.

Sialens Ddarllen yr Haf 2025 – Gardd o Straeon

Beth i’w ddisgwyl

  • Gall plant gofrestru yn eu llyfrgell leol a derbyn llyfryn sticer arbennig i olrhain eu darllen.
  • Wrth iddynt ddarllen, byddant yn datgloi sticeri a gwobrau i ddathlu eu cynnydd.
  • Bydd pawb sy’n cwblhau’r Sialens yn derbyn tystysgrif a medal.
  • Bydd llyfrgelloedd ledled Powys yn cynnal digwyddiadau a gweithgareddau â thema am ddim drwy gydol yr haf.

Sut i gymryd rhan

Gall teuluoedd ymweld â’u llyfrgell leol i gofrestru a chychwyn arni. Bydd staff y llyfrgell wrth law i helpu plant i ddewis llyfrau ac ymuno yn y gweithgareddau. Gallwch gofrestru ar-lein hefyd os yw’n well gennych gymryd rhan o’ch cartref.

  • Dod o hyd i’ch llyfrgell leol
  • Cofrestru ar-lein
  • Dilynwch StoriPowysPlant ar Facebook

Ewch i’ch llyfrgell leol heddiw!

Mae Gwasanaeth Llyfrgell Powys yn cefnogi teuluoedd i fwynhau darllen gyda’i gilydd yr haf hwn. Mae’r Ardd o Straeon ar agor ac yn barod i groesawu darllenwyr ifanc.

Gwiriwch gyda’ch cangen leol am ragor o wybodaeth.