Llyfrgell Llanfyllin Ystafelloedd Cyfarfod a Hwb Digidol

Mae tair ystafell gyfarfod ag offer da ar gael i’w llogi, gan gynnwys ystafell Glwb mawr gyda chyfleusterau cegin.

Ydych chi’n chwilio am rywle i gynnal cyfarfodydd neu ddigwyddiadau cymunedol ym Mhowys? Neu swyddfa breifat sy’n addas ar gyfer cyfarfodydd bach, cyfweliadau neu fel gweithle?

Mae tair ystafell gyfarfod ag offer da ar gael i’w llogi, gan gynnwys ystafell Glwb mawr gyda chyfleusterau cegin

Mae offer ychwanegol ar gael, gan gynnwys sgrin glyfar fawr wedi’i chysylltu â’r rhyngrwyd, gwe-gamera a gliniadur – sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth.

Mae Wifi am ddim ar gael ym mhob rhan o’r adeilad, ynghyd ag argraffu Wifi

I wirio argaeledd ac i archebu lle, ffoniwch y llyfrgell ar 01691 648794 neu  e-bostiwch ni. Gwiriwch ein horiau agor a’n manylion cyswllt yma

Ystafell Glwb – ystafell gyfarfod fawr ac ardal ddigwyddiadau

Mae Ystafell y Clwb yn ardal  hygyrch ac amlbwrpas y gellir ei defnyddio ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau a chynulliadau. Mae cegin fach yng nghornel yr ystafell.

Mae taflunydd ar gael ar gais, a all gysylltu â gliniadur neu chwaraewr cyfryngau arall, ac mae sgrin 2.5m wedi’i gosod ar y wal yn ei lle.

Mae Sgrin Glyfar fawr sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd ar gael ar gais, ynghyd ag amrywiaeth o offer ychwanegol ar gyfer cyfarfodydd neu ddigwyddiadau hyfforddi – sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth.

Ystafell Gyfarfod 1

Mae Ystafell Gyfarfod 1 yn ystafell o faint da gyda chynllun hyblyg, sy’n addas ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau hyfforddi. Mae digon o le i eistedd hyd at 12 yn gyfforddus wrth y byrddau, er y gall yr ystafell ei hun ddal mwy.

Mae Sgrin Glyfar fawr sy’n gysylltiedig â’r rhyngrwyd ar gael ar gais, ynghyd ag amrywiaeth o offer ychwanegol ar gyfer cyfarfodydd neu ddigwyddiadau hyfforddi – sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth.

Ystafell Cyfarfod  2 – yr Ystafell Gyfweliad

Mae gan yr Ystafell Gyfweld desg waith llawn offer, ynghyd â bwrdd ochr a seddi ychwanegol.

Mae peiriant coffi ar gael yn yr ystafell i chi ei ddefnyddio.

Mae Sgrin Glyfar ar y wal ar gyfer cyfarfodydd fideo yn ogystal â gwe-gamera Obsbot os oes angen. Mae’r ystafell yn addas iawn ar gyfer pobl sy’n mynychu cyfweliadau ar-lein neu apwyntiadau GIG Mynychu Unrhyw Le.

Rydym hefyd yn cynnig ystod eang o offer TG i chi ei fenthyg a mynd adref gyda chi, gan gynnwys iPads, Chromebooks, gwe-gamerâu, a phecynnau taflunydd digidol – sgroliwch i lawr am ragor o wybodaeth.

Llogi ystafell

Codir tâl safonol o £10 yr awr am logi ystafell yn Llyfrgell Llanfyllin.

Yn ogystal, mae Ystafell Cyfarfod 2 (yr Ystafell Gyfweld) ar gael am ddim i unigolion sy’n mynychu apwyntiadau meddygol, sesiynau cynghori, neu gyfweliadau.

Cyfleusterau Ychwanegol

65” CleverTouch Sgrin Glyfar ar stand symudol

I’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn unig.

Mae sgrin CleverTouch yn boblogaidd ar gyfer gweithgareddau clwb, cyfarfodydd a digwyddiadau hyfforddi.

Gallwch ei ddefnyddio i ffrydio fideos, ymuno neu gyflwyno cyfarfodydd ar-lein, ac mae’n wych ar gyfer cyrsiau hyfforddi hefyd

Mae’r sgrin gyffwrdd fawr gyda’r modd o gael mynediad i’r Rhyngrwyd, gyda Windows PC, a gallwch hefyd gysylltu gliniadur neu rannu cynnwys o ffôn clyfar neu lechen.

Os ydych yn bwriadu defnyddio’r Clever Touch ar gyfer cyfarfodydd ar-lein, gofynnwch am gamera/meicroffon Obsbot ar wahân pan fyddwch yn archebu.

Mae’r sgrin ar stand symudol sydd â modd o addasu’r uchder.

Llogi CleverTouch:  £20 am hanner diwrnod, i’w archebu

Gwe-gamera Obsbot ar gyfer cyfarfodydd ar-lein

Gwe-gamera diffiniad uchel   (4K)a meicroffon gyda golygfa 90gradd ac awto-olrhain dewisol. 

Da ar gyfer recordio cyflwyniadau fideo neu gyflwyno mewn cyfarfodydd – gellir gosod yr Obsbot i olrhain a dilyn y prif siaradwr.  Hefyd mae’n dda i ymuno â chyfarfodydd hybrid bach (hy  3 neu 4o bobl mewn ystafell yn ymuno â chyfarfod ar-lein) oherwydd golygfa  90 gradd ac ansawdd y meicroffon. 

I’w ddefnyddio gyda gliniadur neu sgrin glyfar. 

Wedi’i gynnwys am ddim fel rhan o logi unrhyw ystafell, mae yma nifer o Obsbots ar gael i’w benthyg yn wythnosol:  £10 yr wythnos, rhaid eu harchebu o flaen llaw.

Bar Fideo Studio X30 ar gyfer cyfarfodydd ar-lein

I’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn unig. 

Bar Fideo popeth-mewn-un cryno diffiniad uchel (4K) gyda gwe-gamera a meicroffon. Yn fwy na gwe-gamera Obsbot, mae gan y Studio X30 olygfa 120 gradd ac mae’n fframio grwpiau yn awtomatig.   

Mae’r Studio X30 yn dda ar gyfer ymuno â chyfarfodydd hybrid maint canolig (hy hyd at 6 bobl mewn ystafell yn ymuno â chyfarfod ar-lein). Bydd yn fframio grwpiau yn awtomatig ac mae’n cynnig ystod clywed 15troedfedd gyda’r meicroffon, sy’n cynnig profiad cyfarfod proffesiynol. 

I’w ddefnyddio gyda gliniadur neu sgrin glyfar. 

Rhaid archebu o leiaf wythnos ymlaen llaw – gofynnwch am Far Fideo Studio X30 wrth archebu ystafell. £20 am hanner diwrnod. 

Gliniaduron i’w defnyddio yn y llyfrgell yn unig

Mae gliniadur ar gael i’w ddefnyddio yn y llyfrgell yn rhad ac am ddim.

Rydym hefyd yn llogi setiau o 5 neu 10 gliniadur ar gyfer cyrsiau hyfforddi, cyfarfodydd neu ddigwyddiadau. Mae setiau gliniaduron i’w defnyddio yn y llyfrgell yn unig a rhaid eu harchebu o leiaf wythnos ymlaen llaw, a chyn belled ymlaen llaw â phosib i sicrhau argaeledd.  £50 y dydd am hyd at  5 gliniadur; £100 y dydd am rhwng  5 a 10 gliniadur.

Benthyciadau DigiTech: iPads, Chromebooks, gwe-gamerâu a thaflunwyr – benthyg a mynd adref gyda chi

Rydym hefyd yn cynnig offer i chi ei fenthyg a mynd adref gyda chi, gan gynnwys iPads, chromebooks, gwe-gamerâu, a chitiau taflunydd digidol. Ewch i’n tudalen Benthyciadau DigiTech am ragor o wybodaeth