
Tynnu lluniau yn y Gaer
4 Mehefin @ 3:00 yp - 4:30 yp
Am ddim
Ymunwch â grŵp tynnu lluniau newydd y Gaer, yn cychwyn ar 4 Mehefin, i rannu syniadau, sgiliau, sgwrs ac anogaeth tra’n cael eich ysbrydoli gan eitemau o gasgliadau gwych y Gaer. Gan gwrdd yn yr Atriwm, byddwn yn mynd i’r Amgueddfa a’r Orielau Celf am awr o dynnu lluniau cyn mynd i fyny i’r Ystafell Dysgu Creadigol i rannu ein gwaith a thrafod y sesiwn. Mae croeso i bob gallu; Y peth pwysicaf yw bod gennych chi angerdd tuag at dynnu lluniau!
Noder, mae Tynnu Lluniau yn y Gaer yn grŵp tynnu lluniau ar y cyd ac nid yw’r sesiwn yn cynnwys tiwtora. Mae cadeiriau/stolion i’w defnyddio yn yr amgueddfa ar gael yn ôl yr angen.
Rhestr Deunyddiau (na ddarperir)
Llyfr Braslunio / Papur
Pensil
Hygyrchedd
Rydym am i’n holl ymwelwyr deimlo bod croeso yn y Gaer, felly rhowch wybod i ni wrth archebu os oes gennych unrhyw anghenion hygyrchedd y dylai ein gwirfoddolwyr neu’n staff fod yn ymwybodol ohonynt.
Gwybodaeth am gadw lle
Does dim angen archebu, dewch draw ar y diwrnod.