Rumpelstiltskin
Digwyddiad cymunedol
5 Tachwedd @ 7:30 yp - 9:00 yp
£15
Mae MPYT yn dilyn llwyddiant ysgubol y llynedd yn Wyeside (‘The Curious Incident
of the Dog…’) gyda stori o fath gwahanol iawn – ond eto yn un gyfarwydd. Mae dull
eang y cwmni o greu theatr ar raddfa fawr yn dal yn bresennol: symud cywrain ar y
cyd, comedi wallgof fendigedig a chymysgedd o gymeriadau rhyfedd, rhyfeddol a
difyr – yn eu tro yn ddidwyll, diffygiol, annwyl, barus, gwallgof – ac erchyll.
Cerddoriaeth a chaneuon gwreiddiol byw; wedi ei goleuo’n berffaith, gyda dyluniad
ar ogwydd, dyma hwyl dyrchafol i’r teulu – ychydig yn rhyfedd, ychydig yn rhyfeddol;
a wnaed ym Mhowys gan rai yn eu harddegau.
Gwybodaeth am gadw lle
https://wyeside.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/873689762