
- This event has passed.
Gwlân ac Edafedd

Cyfle i ymgynnull bob wythnos i bobl sydd â diddordeb mewn crefft gyda thecstilau. Dewch â’ch prosiect eich hun, neu ymunwch â gweithdy’r dydd.
Mae gennym offer fel peiriannau gwnïo a gweill ar gael
Dydd Llun, 3 Chwefror – Gwnewch orchudd clustogau ar ffurf amlen. Dewch â’ch defnydd eich hun, neu gallwch ddefnyddio defnydd sydd gennym ni am rodd fach gennych chi.
Dydd Llun, 10 Chwefror – Gwau nod llyfr
Dydd Llun, 17 Chwefror – Gwneud Sgwâr Mam-gu
Dydd Llun, 24 Chwefror – Dysgu sut i greu llyfr carpiau i blentyn bach
Gwybodaeth am gadw lle
Nid oes angen archebu, dewch heibio ar y dydd