
- This event has passed.
Gwilym Bowen Rhys a’i Ffrindiau
Digwyddiad cymunedol
29 Mai @ 7:00 yp - 9:00 yp
£10.00
Gwilym Bowen Rhys, Patrick Rimes & Osian Morris.
Gwilym Bowen Rhys
Brodor o Fethel yn Arfon (Gwynedd) yw Gwilym. Cafodd fagwraeth Gymraeg a Chymreig, yn cystadlu ar lwyfan Eisteddfodau lleol ers yn ddim o beth. Fe ymunodd gyda’i ddau gefnder a chyfaill i ffurfio’r band roc Cymraeg, ‘Y Bandana’ pan yn 14 oed (2007) a gyda’i ddwy chwaer; Elan a Marged i ffurfio’r grwp gwerin amgen ‘Plu’ yn 2012.
Ers rhai blynyddoedd bellach mae wedi bod yn canu ac ymchwilio mewn i ganeuon ac alawon traddodiadol o Gymru a cheisio codi ymwybyddiaeth o’n cerddoriaeth a’n llenyddiaeth gynhenid odidog. ‘O Groth y Ddaear’ yw ei albwm unigol gyntaf sy’n a lansiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni, 2016.
Gwybodaeth am gadw lle
wrth y drws