Drama ‘ Kate’ gan Mewn Cymeriad
Digwyddiad cymunedol
19 Tachwedd @ 7:30 yp - 9:30 yp
£8.00 – £12.00
“Credaf mai fy mywyd i fy hun yw’r thema fwyaf y gwn amdani. Nid oes dim canolig yn digwydd yn fy mywyd i.”
Drama un person am Kate Roberts – gwerinwraig genedlaetholgar a roddodd lais i’r bobl gyffredin trwy ei gwaith. Er fod Cymru wedi mynnu rhoi statws barchus iddi, rebel styfnig oedd Kate yn y bôn – dynes o flaen ei hamser yn byw a gweithio mewn byd o ddynion.
Mewn Cymeriad/In Character
Mae Mewn Cymeriad yn gwmni theatr sy’n llwyfannu sioeau am gymeriadau a straeon o hanes Cymru.
Gwybodaeth am gadw lle
I brynu tocynnau ar gyfer y digwyddiad, cysylltwch â: Catrin Hughes 07528674950 neu catrinhghs@aol.com