Ydych chi’n rhywun sy’n mwynhau dod â phobl at ei gilydd, cefnogi eraill, a chreu profiad croesawgar i ymwelwyr? Mae Llyfrgell, Amgueddfa ac Oriel Gelf y Gaer yn chwilio am Arweinydd Tîm Gwirfoddolwyr Blaen Tŷ – ac efallai y byddai hyn yn eich gweddu chi i’r dim!

Mae’r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy’n caru straeon, diwylliant a chymuned, ac sy’n barod i gymryd ychydig o gyfrifoldeb ychwanegol. Fel Arweinydd Tîm, byddwch yn helpu i gefnogi ein grŵp gwych o wirfoddolwyr blaen tŷ, gan sicrhau bod pawb yn teimlo’n hyderus, yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn barod i wneud profiad pob ymwelydd yn arbennig.

Nid oes angen profiad rheoli arnoch – dim ond caredigrwydd, brwdfrydedd, ac ymagwedd gadarnhaol. Byddwn yn rhoi’r holl hyfforddiant a chefnogaeth sydd eu hangen arnoch i ffynnu.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn dod yn Arweinydd Tîm Gwirfoddol? Edrychwch ar y disgrifiad rôl ar wefan StoriPowys neu galwch heibio i’r Gaer am sgwrs.