Os hoffech ychydig o gymorth ychwanegol gydag e-byst, ffurflenni ar-lein neu wasanaethau digidol, mae llyfrgelloedd Powys yn cynnig cymorth un‑i‑un am ddim i gefnogi preswylwyr i deimlo’n fwy hyderus wrth ddefnyddio technoleg mewn bywyd bob dydd.
Ledled y sir, mae staff llyfrgelloedd yn darparu cymorth digidol gydag amynedd, wedi’i bersonoli i unrhyw un a fyddai’n elwa o help llaw gyda chyfrifiaduron, ffonau clyfar neu offer ar-lein. P’un a ydych chi newydd ddechrau neu eisiau sicrwydd gyda rhywbeth penodol, mae cymorth ar gael mewn amgylchedd hamddenol a chroesawgar.
Gall preswylwyr dderbyn help gydag ystod o dasgau digidol, gan gynnwys sefydlu a rheoli cyfrifon e-bost, deall ffurflenni ar-lein, cael mynediad at wasanaethau cyngor a gwasanaethau hanfodol eraill, a datrys materion technegol cyffredin. Mae cymorth wedi’i deilwra i anghenion unigol, gan ganiatáu i bobl ddysgu wrth eu pwysau a chanolbwyntio ar yr hyn sydd fwyaf defnyddiol iddynt.
Mae llyfrgelloedd cyhoeddus wedi bod yn fannau cymunedol dibynadwy ers amser maith, ac mae eu rôl yn parhau i dyfu wrth i fwy o agweddau ar fywyd bob dydd symud ar-lein. Ochr yn ochr â llyfrau ac adnoddau dysgu, mae llyfrgelloedd yn cynnig mynediad am ddim i gyfrifiaduron a Wi-Fi, gyda staff gwybodus wrth law i arwain preswylwyr drwy’r byd digidol.
I gymunedau ledled Powys, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, gall mynediad at gymorth digidol wyneb‑yn‑wyneb yn agos at gartref wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Trwy gynnig cymorth lleol cyfeillgar, mae llyfrgelloedd yn helpu i leihau rhwystrau a sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cymdeithas gynyddol ddigidol.
I gael rhagor o wybodaeth am gymorth digidol un-i-un, siaradwch â staff yn eich llyfrgell leol neu edrychwch ar galendr Beth sy’n digwydd sydd ar wefan StoriPowys.