Sgyrsiau Cymunedol PAVO

12 Rhag 2025

Mae Gwasanaethau Diwylliannol Powys wedi bod yn mynychu a chyfrannu at ddigwyddiadau ‘Sgyrsiau Cymunedol’ PAVO ledled y sir.

Mae ‘Sgyrsiau Cymunedol’ yn rhan o raglen Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Y nod yw gwrando ar bobl leol i ddeall eu hanghenion, blaenoriaethau a dyheadau, a’u cefnogi i lunio atebion i faterion lleol sy’n gweithio i’w cymunedau.

Maent wedi bod yn ymweld â threfi, pentrefi a chymunedau i glywed yn uniongyrchol gan bobl leol – gan sicrhau fod neb yn cael eu gadael allan o’r sgwrs.

Dyma gyfle i baratoi ar gyfer y dyfodol – drwy wrando, cynllunio a gosod y sylfeini nawr.

Lle bo’n bosibl, mae staff llyfrgelloedd lleol wedi gallu cymryd rhan. Yn aml iawn, mae staff y llyfrgell yn ffynonellau o wybodaeth gymunedol leol ond anaml y cânt gyfle i fynd allan i gyfarfod sefydliadau a rhoi wynebau i enwau, hyrwyddo’r adnoddau pwysig yn y llyfrgell leol a bod yn rhan o sgyrsiau cymunedol pwysig.

Daeth Meg a Catherine o’r Drenewydd i ddigwyddiad yn ddiweddar a meddent:
“Roedd yn wych gweld sefydliadau cymunedol yn dod at ei gilydd i weld beth mae pawb arall yn ei gynnig a sut y gallai fod yn ddefnyddiol i gydweithio. Roedd pawb yn gyfeillgar a daethom oddi yno gydag ambell gyswllt gwerthfawr. Cacennau Cri blasus hefyd!” (Meg)

“Roedd y digwyddiad yn gyfle gwych i gryfhau’r rhwydwaith yn y Drenewydd ac i ysgogi syniadau a chysylltiadau newydd.” (Catherine)