Wythnos Gwirfoddolwyr 2026: Rhaglen Wirfoddoli Dod o Hyd i Gymuned Trwy Wasanaethau Diwylliannol

3 Jun 2026

Gwirfoddolwr lleol yn rhannu sut y gall rhoi ychydig oriau yr wythnos wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Mae gwirfoddoli wrth wraidd llawer o wasanaethau cymunedol, ac yn Llandrindod, mae un preswylydd wedi darganfod faint o foddhad y gellir ei gael o fod yn Wirfoddolwr Gwasanaethau Diwylliannol:

Fy Nhaith fel Gwirfoddolwr Amgueddfa a Llyfrgell Powys

Yn 2025, penderfynais chwilio am gyfle gwirfoddoli newydd. Roeddwn eisoes yn gwirfoddoli gydag elusen ond roeddwn eisiau cysylltu â’m cymuned leol yma yn Llandrindod. Dyna pryd y darganfyddais fod y Gwasanaethau Diwylliannol yn chwilio am wirfoddolwyr i gefnogi’r amgueddfa a’r llyfrgell. Roedd yn swnio’n ddelfrydol – cyfle i gefnogi llythrennedd, hanes a diwylliant lleol i gyd mewn un.
Roedd y broses yn anhygoel o llyfn. Ar ôl gwneud cais, cyfweliad cyfeillgar a gwiriadau DBS, cwblheais fy hyfforddiant arlein, a roddodd sylfaen dda i mi. Erbyn fy sifft gyntaf roeddwn i’n teimlo’n gwbl barod ac yn edrych ymlaen at roi cychwyn arni.
O’r diwrnod cyntaf, teimlwno fy mod yn cael fy nghroesawu. Dechreuais drwy ail-osod llyfrau ar y silffoedd – rhywbeth roeddwn i wir yn ei fwynhau, er fy mod i’n tynnu coes eu bod nhw’n cadw’r cyfan i mi bob dydd Iau erbyn hyn! Mae ‘na rhyw foddhad mewn cadw’r llyfrau yn drefnus ac yn hygyrch.

Dros amser, mae fy rôl wedi ehangu. Rwyf bellach yn rhannu fy amser rhwng yr amgueddfa a’r llyfrgell, gan helpu gydag amrywiaeth o dasgau. Nid oes dau ddydd Iau yr un peth. Boed yn wyneb cyfeillgar yn y llyfrgell neu’n defnyddio fy sgiliau i gynorthwyo gyda phrosiectau’r amgueddfa, rwy’n teimlo fy mod i’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Mae gwirfoddoli yma wedi bod yn brofiad gwerth chweil a chadarnhaol. Mae wedi fy ngalluogi i ddefnyddio hen sgiliau, dysgu sgiliau newydd, cwrdd â phobl ddiddorol, a rhoi rhywbeth yn ôl i wasanaeth yng nghanol Llandrindod.
Wrth edrych i wirfoddoli, ni allaf argymell Rhaglen Gwirfoddoli Gwasanaethau Diwylliannol Powys ddigon! Roedd cymryd y cam cyntaf hwnnw yn benderfyniad gwych, ac edrychaf ymlaen at lawer mwy o ddyddiau Iau i ddod.

Oes gennych ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth yn eich cymuned? Darganfyddwch fwy am rolau cyfredol a sut i wneud cais.