Chwilio Casgliadau Amgueddfeydd a Threftadaeth
Archwiliwch ein casgliadau unigryw a dysgu mwy am y dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sy’n cael ei harddangos ar draws amgueddfeydd ym Mhowys
Dysgwch fwy am y gwaith pwysig y mae amgueddfeydd Powys yn eu gwneud i warchod treftadaeth ddiwylliannol gyfoethog y sir.
Mae y Gaer yn ddatblygiad diwylliannol cyffrous ac ysbrydoledig, yn atyniad mawr i bobl leol ac ymwelwyr i Aberhonddu ac yn sbardun i adfywio cymuned Powys.
Mae’n uno’r Neuadd y Sir glasurol, sy’n cynnwys Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog ar ei newydd wedd a’i hystafell llys Fictoraidd ryfeddol, gyda Llyfrgell Aberhonddu, ystafelloedd addysg a chymunedol a chaffi newydd. Mae’r elfennau cyflenwol hyn wedi’u cysoni mewn datblygiad pensaernïol unigryw a beiddgar sy’n asio’r hen a’r newydd, ac maent yn gwbl hygyrch ac yn groesawgar i bawb.
***Mynediad olaf i’r Amgueddfa 4:00pm yn ystod yr wythnos a 3:30pm ar benwythnosau***
Cefnogir oriau agor ar ddydd Sul gan Gyngor Tref Aberhonddu.
Dydd Mercher 14 Mai
Dim mynediad i Astudiaethau Lleol oherwydd gwaith cynnal a chadw wedi’i drefnu – rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra.
Dydd Iau 15 Mai a dydd Gwener 16 Mai
Oherwydd gwaith cynnal a chadw wedi’i drefnu, does dim mynediad i doiledau llawr gwaelod, lleoedd newid a chyfleusterau newid babanod yn y Gaer ddydd Iau 15 a dydd Gwener 16 Mai – rydym yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra y gallai hyn ei achosi.
Byddwch yn ymwybodol y gallai fod nifer o ardaloedd o olau isel yn y Gaer yn ystod y cyfnod hwn
Dydd Mercher 21 a dydd Iau 22 Mai
Oherwydd gwaith cynnal a chadw wedi’i drefnu, ni fydd ein cyfrifiaduron cyhoeddus ar gael ddydd Mercher 21 a dydd Iau 22 Mai a byddwn yn gweithredu gwasanaeth cyfyngedig yn y Gaer
cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Byddwch yn ymwybodol y gallai fod nifer o ardaloedd o olau isel yn y Gaer yn ystod y cyfnod hwn
Dydd Gwener 23ain
Oherwydd gwaith cynnal a chadw wedi’i drefnu, bydd y caffi ar gau ddydd Gwener 23 Mai
Byddwch yn ymwybodol y gallai fod nifer o ardaloedd o olau isel yn y Gaer yn ystod y cyfnod hwn.
Teithiau 360° yn syth o’ch cyfrifiadur. Gweld ein amgueddfeydd, llyfrgelloedd, archifau a golygfeydd o Bowys o’ch cartref eich hun!
Cliciwch ar y ddelwedd i gychwyn arni.
Archwiliwch ein casgliadau unigryw a dysgu mwy am y dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog sy’n cael ei harddangos ar draws amgueddfeydd ym Mhowys