Mae Hay Nawr yn cyflwyno… The Gentle Good & Flickers from the Fen
20 Tachwedd @ 7:30 yp - 9:30 yp
£10
The Gentle Good yw llysenw’r cerddor a’r cyfansoddwr o Gaerdydd, Gareth Bonello. Mae Gareth yn adnabyddus am ei alawon swynol, ei ledrith ar y gitâr a’i drefniadau acwstig hardd. Fel cyn-enillydd o wobrau albwm y flwyddyn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig, mae Gareth eisoes yn gerddor blaenllaw ar y sîn Gymreig.
Portread seicedelig o Gwm Elan ym Mhowys yw albwm newydd The Gentle Good, Elan. Fe’i hysgrifennwyd yn ystod cymrodoriaeth blwyddyn o hyd ymysg Mynyddoedd Cambria. Mae’r albwm yn archwilio tirwedd, hanes a gwleidyddiaeth y cwm, a gafodd ei foddi ar ddiwedd oes Fictoria i greu cyfres o gronfeydd ar gyfer dŵr yfed. Mae’n cynnwys band llawn, synths a llinynnau ac yn denu ar ddylanwadau roc, gwerin, seic a pop i dalu teyrnged gerddorol i dirwedd ddramatig Elan.
Gwybodaeth am gadw lle
https://www.tickettailor.com/events/haynawr/2460441