Gweithgareddau ar thema Calan Gaeaf yn cael eu cynnal yn y Gaer ar gyfer Gŵyl Amgueddfeydd Cymru

24 Hyd 2026

Bydd gwahoddiad i deuluoedd fwynhau wythnos o weithgareddau am ddim ar thema Calan Gaeaf yn Amgueddfa’r Gaer yn Aberhonddu a hynny fel rhan o ŵyl Amgueddfeydd Cymru yn ystod hanner tymor mis Hydref.

Bydd yr ŵyl sy’n rhedeg o 24 Hydref tan 1 Tachwedd, yn dathlu amgueddfeydd ac orielau ledled Cymru gan annog pobl i archwilio treftadaeth, creadigrwydd a diwylliant lleol.

 

Yn y Gaer, gall ymwelwyr ddilyn llwybr hunan-dywys am ddim i ddod o hyd i greaduriaid Calan Gaeaf o’r byd naturiol, gan gynnwys ystlumod, pryfed cop, nadroedd a thylluanod, wedi’u cuddio ar hyd a lled yr orielau. Bydd cyfranogwyr yn darganfod ffeithiau am bob rhywogaeth, bioamrywiaeth a rôl bwysig yr anifeiliaid hyn, sy’n cael eu camddeall yn aml, ym myd natur.

Bydd y llwybr hefyd yn cynnig awgrymiadau ar gyfer Calan Gaeaf mwy cynaliadwy trwy leihau gwastraff ac ailddefnyddio neu ailgylchu deunyddiau. Bydd pawb sy’n ei gwblhau yn derbyn danteithion siocled a phapur hadau blodau gwyllt siâp ysbryd i’w blannu gartref.

Bydd ardal grefft bwrpasol hefyd yn rhoi cyfle i blant a theuluoedd greu addurniadau a chrefftau ar thema Calan Gaeaf.

Bydd y gweithgareddau hyn ar gael am ddim yn ystod oriau agor o ddydd Sadwrn 24 Hydref i ddydd Sul 1 Tachwedd, heb fod angen archebu.

 

Bydd ymwelwyr hefyd yn cael cyfle i archwilio ochr arall o hanes y Gaer drwy gyfres o Deithiau Tywys gyda Stori Brawychus yng nghelloedd hanesyddol yr amgueddfa ar y llawr isaf.

Drwy ddefnyddio gorffennol yr adeilad fel llys a chelloedd cadw, bydd storïwyr yn dod â hanes lleol yn fyw i oedolion a phlant. Bydd y sesiynau hefyd yn rhagolwg o brosiect yn y dyfodol i agor y celloedd i ymwelwyr yn fwy rheolaidd.

Bydd teithiau oedolion (16+ oed) yn cael eu cynnal ddydd Mawrth 27 Hydref am 11am a 2pm, tra bydd teithiau plant (5+ oed) yn cael eu cynnal ddydd Iau 29 Hydref am 11am ac 1pm. Rhaid archebu lleoedd ymlaen llaw trwy Eventbrite: