Ymuno â ni

Canfyddwch sut i gymryd rhan

Pam gwirfoddoli gyda ni

Volunteers are at the heart of Powys’ Cultural Services and play a vital role in supporting the work we do.

Rydym ni’n cynnig amrywiaeth o gyfleoedd ar draws y gwasanaeth: o bell ac wyneb yn wyneb, yn wynebu’r cyhoedd a thu ôl i’r llenni.

Rydym yn croesau gwirfoddolwyr o bob cefndir a’n nod yw darparu profiadau cyfoethog i bawb sy’n rhoi boddhad.

Rydym yn cynnig ymrwymiad hyblyg i’ch siwtio chi: chi sy’n penderfynu faint o amser yr hoffech ei roi. Pa bynnag rôl y byddwch yn ei dewis, byddwch yn derbyn hyfforddiant a chymorth trylwyr.

Mae llawer o fanteision i wirfoddoli gyda ni

Dysgwch

Dysgwch am waith llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau

Sgiliau

Enillwch sgiliau gwella gyrfa

Arbenigedd

Gwnewch ddefnydd o’ch doniau a’ch arbenigedd

Ymgysylltwch

Byddwch yn rhan o dîm cyfeillgar a gweithiwch gyda phobl o’r un anian

Rhannwch

Rhannwch eich angerdd a’ch brwdfrydedd dros bwnc neu sefydliad gyda’r cyhoedd

Mynediad

Manteisiwch ar ddigwyddiadau a hyfforddiant unigryw i wirfoddolwyr

Gyrfaoedd yn StoriPowys

Ydych chi’n barod i ddechrau eich gyrfa ym maes diwylliant a threftadaeth? Edrychwch ar ein cyfleoedd swyddi diweddaraf a dewch i ymuno â thîm sy’n rhoi gwerth ar greadigrwydd, cynhwysiant a syniadau ffres.
  • Gweithio gyda thîm sy’n hyrwyddo diwylliant a dysgu.
  • Helpu i lunio gwasanaethau sy’n agored ac yn gynhwysol i bawb.
  • Cael profiad ymarferol mewn llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau.