Arddangosfa 150fed Pen-blwydd
Digwyddiad cymunedol
10 Mehefin @ 10:00 yb - 4:00 yp
Am ddim
Diwrnod agored ac arddangosfa gyda gweithiau celf gwreiddiol i ddathlu pen-blwydd Eglwys Gymunedol Machynlleth yn 150 oed.
Bydd yr arddangosfa’n darlunio hanes byr yr eglwys o osod y garreg sylfaen gan David Davies, Llandinam, ym 1876, hyd heddiw. Bydd gweithiau celf gwreiddiol a grëwyd yn arbennig ar gyfer y pen-blwydd yn cael eu harddangos a bydd lluniaeth am ddim yn cael ei weini yn yr ysgoldy.
Croeso cynnes i bawb.