Rydym yn Cyflogi! Arweinydd Gweithredol Gwasanaethau Diwylliannol (De)

19 Rhag 2025

Am y rôl:

Bod yn gyfrifol am reoli a darparu gwasanaethau gweithredol llyfrgelloedd y Gaer, Ystradgynlais a’r Gelli gan ddatblygu a darparu gwasanaeth deinamig a blaengar i breswylwyr, grwpiau cymunedol ac ymwelwyr. Bydd dyletswyddau’n canolbwyntio ar greu a gweithredu profiad rhagorol i gwsmeriaid; ymgysylltu’n greadigol â chwsmeriaid ag amrywiaeth o adnoddau digidol a chorfforol mewn ffyrdd sy’n annog cariad at hanes, diwylliant, darllen, gwybodaeth a dysgu gydol oes.

Amdanoch chi:

  • Profiad o weithio mewn llyfrgell gyhoeddus
  • Profiad o reoli staff ac eiddo
  • Profiad o ddefnyddio TGCh a hyder wrth addasu i dechnolegau sy’n newid yn y gwaith
  • Cymhwyster mewn Astudiaethau Llyfrgell a Gwybodaeth ar lefel gradd neu ôl-raddedig
  • Meddu ar drwydded yrru lawn a’r gallu i deithio o amgylch Powys. Mae angen teithio rhwng safleoedd.

Eich dyletswyddau:

  • Bod yn gyfrifol am reoli a darparu gwasanaethau gweithredol llyfrgelloedd y Gaer, Ystradgynlais a’r Gelli.
  • Bod yn gyfrifol am staffio a chyflenwi digonol o’r holl gyfleusterau, gan gynnwys cydlynu absenoldeb a rotâu staffio. Recriwtio a hyfforddi staff newydd.
  • Bod yn gyfrifol am sicrhau bod gofynion cynnal a chadw adeiladau yn cael eu cofnodi a’u datrys. Bod yn gyfrifol am ddiogelwch yr adeiladau, cynnal a chadw rhestr gyfredol o ddeiliaid allweddi a sicrhau bod cynlluniau a gweithdrefnau argyfwng ar waith ac yn cael eu deall gan yr holl staff. Gweithredu fel deiliad allweddi ar gyfer adeiladau fel y bo’n briodol.
  • Hyrwyddo’r defnydd o gyfleusterau diwylliannol bob amser, gan weithredu fel llysgennad i Wasanaethau Diwylliannol gan gyfeirio’n benodol at yr Hinsawdd a’r Amgylchedd.
  • Gweithio â chydweithwyr yn y tîm Gwasanaethau Diwylliannol ehangach i sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn gyson a’u bod yn gallu ymateb yn gadarnhaol i’r galw am wasanaethau.

Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â:

recruitment@powys.gov.uk

Mae angen Gwiriad Safonol y DBS i’r swydd hon.

Cyflog: Graddfa 9 Pwynt 23 i Bwynt 25 £34,434 i £36,363 y flwyddyn £17.84 i £18.84 yr awr

Sylwch: ar hyn o bryd, nid yw Cyngor Sir Powys yn derbyn ceisiadau gan ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Crefftus er mwyn cael hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn ymgeisio am swydd.