System Rheoli Llyfrgell Newydd ar gyfer ein Llyfrgelloedd

6 Chwe 2025

Mae Llyfrgelloedd Powys wedi newid i System Rheoli Llyfrgell newydd, Spydus, a ddatblygwyd gan Civica.

Mae’r system uwchraddedig yn cynnwys gwefan catalog wedi’i hailddatblygu gyda mesurau diogelwch dyrchafedig a gwell galluoedd rheoli stoc. Gallwch weld y catalog arlein yma: Hafan | Llyfrgelloedd Powys

Caiff ap llyfrgell newydd ei lansio’n ddiweddarach yn y flwyddyn.

Rydym yn ddiolchgar iawn i gwsmeriaid am eu hamynedd yn ystod y newid hwn.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â’ch llyfrgell leol, ebostiwch ni ar library@powys.gov.uk neu ffoniwch y Llinell Llyfrgell ar 01874 612394.