The Ultimate Bubble Show
2 Ebrill @ 11:00 yb - 12:00 yp
£7 – £13Mae Ray Bubbles, “Swigenolegydd” Rhyngwladol a Deiliad Record Byd Guinness, ar genhadaeth i feistroli’r gelfyddyd o wneud swigod a chreu’r swigen sgwâr eithaf!
Mae’r sioe yma’n addo corwynt o gyffro a syrpreisys, wrth i Ray ddefnyddio amryw o nwyon gwahanol i greu effeithiau, cerfluniau swigod syfrdanol, ac arddangosfeydd hudolus. Byddwch yn barod i gael eich synnu wrth i Ray greu swigen llosgfynydd, carwsél swigod sebon, ysbryd swigod, a hyd yn oed corwynt y tu mewn i swigen!
Mae’r sioe yn addas i blant ac oedolion ag anghenion ychwanegol, ac fe’i hysbrydolwyd gan waith Ray gydag ysgolion SEND, grwpiau i oedolion niwroddargyfeiriol, a chanolfannau gwyddoniaeth ledled Ewrop.
Ymunwch â Ray i weld a fydd e’n gallu creu’r swigen sgwâr eithaf!
TOCYNNAU:
Talwch Beth Allwch Chi: £7, £9, £11*, £13 (*Pris Safonol a Awgrymir)
Mae tocynnau ar gyfer llawer o’n sioeau a’n darllediadau byw ar werth ar sail talu beth bynnag allwch chi, sy’n golygu y cewch chi ddewis y pris gorau i’ch poced. Noddir tocynnau lefel isaf, tra mae’r pris uchaf yn rhoi ychydig bach ychwanegol i’r Neuadd Les, sy’n helpu ariannu ein gweithgareddau cymunedol.
Gwybodaeth am gadw lle
Archebwch ar-lein drwy ein gwefan, ffoniwch 01639 843163, neu galwch heibio’n bersonol. Tocynnau ar gael wrth y drws.
Mae Ray Bubbles, “Swigenolegydd” Rhyngwladol a Deiliad Record Byd Guinness, ar genhadaeth i feistroli’r gelfyddyd o wneud swigod a chreu’r swigen sgwâr eithaf!