
Dosbarth Ymwybyddiaeth Ofalgar y Bore yng Nghanolfan Celfyddydau Canolbarth Cymru
9 Mai @ 9:45 yb - 11:00 yb
£4 – £28
Ymunwch â’r Athrawes Ymwybyddiaeth Ofalgar Ardystiedig, Emily-Francesca Bartlett, i oedi ac adlinio (reset) ar ddiwedd yr wythnos.
Mae’r sesiynau hyn yn cynnwys arferion tyner dan arweiniad i helpu i dawelu meddwl prysur, lleddfu straen a thensiwn, ac adfer egni a gwydnwch i gefnogi eich lles. Byddwn yn archwilio arfau hanfodol ymwybyddiaeth ofalgar a sut i integreiddio hyn i fywyd bob dydd.
Bob wythnos ar fore Gwener.
Y dyddiadau sydd ar y gweill yw: 2, 9, 16 a 23 Mai.
Mae’r dosbarth hwn yn addas ar gyfer dechreuwyr yn ogystal â’r rhai sydd â pheth profiad ac sydd am ddyfnhau neu loywi eu hymarfer mewn lleoliad cymunedol.
Mae wedi’i drefnu’n arbennig i gyd-fynd â gweithdai crochenwaith Celfyddydau Canolbarth Cymru ar ddydd Gwener (11am–1pm a 2–4pm). Bydd hyn yn caniatáu i chi fwynhau diwrnod llesol o gelf, cinio, byd natur, crochenwaith, ac ymwybyddiaeth ofalgar.
Gwybodaeth am gadw lle
https://morningmindfulnessclass.eventbrite.co.uk