Iechyd a Lles

Nid yn unig y mae darllen yn ffynhonnell dda o ddifyrwch a mwyniant – gall fod yn fuddiol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol hefyd.

Darllen er mwyn pleser

Nid yn unig y mae darllen yn ffynhonnell dda o ddifyrwch a mwyniant – gall fod yn fuddiol ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol hefyd.

Ynghyd ag amrywiaeth eang o nofelau a barddoniaeth, mae ystod o lyfrau ar bob math o bynciau ar gyfer iechyd a lles gan eich llyfrgell, o lyfrau am fwyta’n iach a chwaraeon a gweithgareddau, i lyfrau am ddiddordebau i chi eu mwynhau.

Darllen yn Well / Llyfrau ar Bresgripsiwn

Dewiswyd y teitlau hyn yn benodol gan weithwyr iechyd proffesiynol i helpu pobl i ddeall a rheoli eu hiechyd a’u lles.

Gallwch roi’r llyfrau yr hoffech eu benthyg ar gadw trwy glicio ‘Ar Gadw’, ac os nad ydynt eisoes yn eich llyfrgell ddewisol, byddwn yn trefnu iddyn nhw gyrraedd yna fel y gallwch eu casglu.

  • Darllen yn Well ar gyfer Iechyd Meddwl – llyfrau i helpu pobl i reoli ac ymdopi ag anawsterau iechyd meddwl cyffredin, neu ddelio â theimladau a phrofiadau anodd.
  • Darllen yn Well ar gyfer Plant – llyfrau i helpu iechyd meddwl a lles plant.
  • Darllen yn Well ar gyfer Dementia – casgliad o lyfrau i helpu pobl sy’n byw gyda dementia, neu sy’n gofalu am rywun gyda dementia.
  • Llyfrau am Ganser – argymhellir gan weithwyr proffesiynol Cymorth Canser Macmillan – os ydych yn byw gyda chanser neu’n gofalu am rywun yn y sefyllfa hon, mae gennym ddetholiad o lyfrau perthnasol ar gael i chi i’w benthyca, a argymhellir gan weithwyr proffesiynol Macmillan.

Monitrwyr Pwysau Gwaed i’w benthyca

Gallwch fenthyca monitrwyr pwysau gwaed, yn rhad ac am ddim, oddi wrth eich llyfrgell leol.

Rhaid archebu monitor ymlaen llaw – cysylltwch â ni i ofyn am uned, ac os nad oes un eisoes yn eich cangen leol, byddwn yn dod ag un yno i chi ei gasglu.

I ofyn am fenthyciad, cysylltwch â’ch llyfrgell leol, e-bostiwch neu ffonio Llinell y Llyfrgell ar 01874 612 394.

Dementia

Darllen yn Well ar gyfer Dementia

Dyma lyfrau a ddewisir yn arbennig gan weithwyr iechyd proffesiynol i’ch helpu chi os oes gennych ddementia neu os ydych yn gofalu am rywun sydd â dementia. Cliciwch yma i archwilio’r casgliad Darllen yn Well ar gyfer Dementia.

Blychau Atgofion

Mae gennym hefyd gasgliad o Flychau Cof a Hamperi Atgofion y gallwch eu benthyg. Mae’r blychau a’r hamperi’n cynnwys amrywiaeth o arteffactau â thema i annog hel atgofion a siarad. Maent yn ddefnyddiol ar gyfer grwpiau a Chartrefi Gofal. Am wybodaeth, cysylltwch â’ch llyfrgell leol, e-bostiwch, neu ffoniwch Linell y Llyfrgell ar 01874 612 394.

 

‘Playlist for Life’

Gall rhestr chwarae o gerddoriaeth bersonol helpu pobl sy’n byw â dementia, trwy adeiladu rhestr o ganeuon sy’n bwysig iddynt – ffynhonnell o bleser a rennir a sgyrsiau.

Mae’r wefan Playlist for Life yn cynnwys adnoddau y gellir eu lawr lwytho i’ch helpu i adeiladu rhestr chwarae o gerddoriaeth, neu gallwch ofyn am lyfryn yn Gymraeg neu Saesneg oddi wrth eich llyfrgell leol.

I ofyn am lyfryn am ddim, cysylltwch â’ch llyfrgell leol, e-bostiwch neu ffonio Llinell y Llyfrgell ar 01874 612 394.

AskSara Powys

Cefnogir AskSARA gan Gyngor Sir Powys. Mae’n wefan hawdd ei defnyddio sydd a’r nod o wella mynediad i amrywiaeth o gynhyrchion hunanofal a thechnoleg glyfar, er mwyn helpu i wneud gweithgareddau dyddiol yn haws.

Atebwch ychydig o gwestiynau syml mewn ffordd ddienw, a bydd AskSara yn cynhyrchu adroddiad sydd wedi’i bersonoli gyda chyngor arbenigol a ysgrifennwyd gan therapyddion galwedigaethol.

Mae’r safle wedi’i fwriadu ar gyfer pobl mewn oed, gofalwyr a phobl ag anableddau, ynghyd â phlant.

Cerdyn Gofalwr

Os ydych yn ofalwr ym Mhowys, gallwch gofrestru am gerdyn gofalwyr yn eich llyfrgell leol.

Gallwch fenthyca hyd at 20 llyfr, ac ni fyddwn byth yn codi tâl dirwyon am eitemau sy’n hwyr yn cael eu dychwelyd.