- This event has passed.
MPYT Mawr – Theatr Ieuenctid, 14-24 oed
14 Ionawr @ 7:15 yp - 8:45 yp
£607.15 – 8.45pm nos Fawrth drwy gydol y tymor
Addas i blant 14-24 oed
Gostyngiad i £60 y tymor (ychydig dros £5 y sesiwn – mae gostyngiadau i frodyr a chwiorydd yn berthnasol)
Weithiau yn yr ysgol, efallai byddwch yn teimlo’r pwysau i guddio pwy ydych chi go iawn a bod yn rhaid ffitio i mewn. Mae Theatr Ieuenctid Canol Powys yn lle diogel i ddod a bod yn fersiwn fawr (neu fach) (neu fersiynau) o’ch hunaniaeth unigryw gyda phobl a fydd yn eich dathlu am fod yn union hynny. Mae Theatr Ieuenctid Canol Powys yn cynnig ‘cartref’ creadigol cefnogol i chi wrth i chi archwilio eich hun fel oedolyn, lle byddwch yn cael gwrandawiad a’ch trin yn gyfartal a ble y gallwch ofyn cwestiynau mawr bywyd. Cewch eich annog i archwilio eich hunaniaeth i’r ymylon a’r hyn y gallwch ei wneud gyda ffrindiau cefnogol a’r bobl theatr orau y gallwn gael gafael arnynt.
Dyma’r grŵp theatr ieuenctid craidd; sef gweithdy a sesiwn nos Fawrth sydd wedi bod yn rhedeg ers 1987.
Beth sy’n dod nesaf?
O fis Ionawr i fis Gorffennaf 2025 rydym yn gwahodd y storïwr dwyieithog arobryn Tamar Williams i arwain rhai sesiynau a hefyd Bethan Dear sy’n wneutheliwr theatr sydd wedi gweithio yng Nghymru a Llundain ers 20+ o flynyddoedd ac sy’n wych! Bydd ein harweinwyr ifanc dan hyfforddiant: Alice, Melody a Ben (weithiau pob un ohonynt, ac weithiau eraill fel Cai ac Ellis) hefyd yn cynorthwyo’r sesiynau, maen nhw’n gyn-aelodau eu hunain ac yno i’ch croesawu a’ch cefnogi a’ch helpu i deimlo’n gartrefol.
Bydd sesiwn nodweddiadol yn cynnwys gemau ac ymarferion theatr, dyfeisio heriau; ymddiried a gemau ffocws; a phethau eraill fel theatr gorfforol; gwaith masg; cynllunio; pypedau; syrcas; canu; ymladd ar lwyfan… gallem fynd yn ein blaenau, ond bydd yn rhaid i chi ddod i weld drosoch eich hun.
Awydd ymuno? Dewch i roi cynnig arni a gweld a yw’n addas i chi! Gallwch gofrestru yma.
Anfonwch neges i hello@mpyt.co.uk gallech hefyd alw heibio i’r swyddfa am sgwrs i gael yr holl wybodaeth.
Gwybodaeth am gadw lle
https://airtable.com/appPcIJozLM5oWqka/shrOZ5NuMVUme98rV