MPYT+ Theatre Ieuenctid, 19-29 Oed
26 Ionawr @ 3:30 yb - 5:30 yp
£53.30-5.30pm ar ddydd Sul olaf y mis yn ystod y tymor.
Rydym yn gwybod mai prin yw’r cyfleoedd i bobl ifanc yn y Canolbarth, felly rydym wedi creu lle i bobl greadigol 19-29 oed gyfarfod. P’un ai ydych chi’n berfformiwr, yn gyfarwyddwr, yn ganwr, yn ddawnsiwr, yn wneuthurwr gwisgoedd neu’n ddylunydd set; dewch draw i gwrdd â rhai pobl o’r un anian â chi.
Gallwch ddisgwyl gemau, byrfyryrio, gwaith sgript, sgyrsiau am y byd a’n lle ynddo. Mae gennym gynlluniau perfformio ar y gweill i wneud rhywfaint o theatr gŵyl Walkabout ac i gynnal darlleniadau dramâu mewn trefi lleol…. cewch eich annog i fwydo syniadau ac arwain ar bethau a byddwn yn eich helpu i wneud iddo ddigwydd!
Rydym hefyd yn hyfforddi rhai o’r grŵp oedran hwn i fod yn arweinwyr gweithdai ac yn creu rolau cynorthwyol ar gynyrchiadau a arweinir yn broffesiynol. Mae gennym ffrindiau ledled Cymru a’r DU sy’n gweithio yn myd y theatr a digwyddiadau (llawer o gyn-aelodau Theatr Ieuenctid Canol Powys) ac rydym yn hapus greu cysylltiadau a’ch helpu i ennill profiadau proffesiynol rhagorol os dymunwch…. neu fel arall dewch i chwarae yn unig!
Croeso i bob gallu. £5 y sessiwn.
Awydd ymuno? Anfonwch neges i hello@mpyt.co.uk
Gwybodaeth am gadw lle
e-bost hello@mpyt.co.uk