
Gŵyl Siocled Cymru
25 Hydref
Am ddim
Dathlu POB peth siocled yng Nghymru (ac ychydig y tu hwnt)
Ymunwch â ni am ddiwrnod hwyliog a blasus i ddathlu’r holl bethau sy’n gwneud siocled a cacao mor ddiddorol – a blasus!
Bydd y diwrnod yn cael ei gynnal yng nghymuned hyfryd Llanidloes, Canolbarth Cymru.
Pryd mae’r cyfan yn digwydd?
Dydd Sadwrn 25 Hydref 2025
Beth sy’n digwydd?
Rydym yn cynllunio gweithgareddau drwy gydol y dydd a ledled y dref i chi gymryd rhan ynddynt.
Bydd opsiynau ar gyfer plant, teuluoedd ac oedolion – ac mae’r rhan fwyaf am ddim i’w mynychu!
Mae amrywiaeth o weithgareddau blasus a gweithgareddau siocled yn digwydd drwy gydol y dydd, gan gynnwys:
- Marchnad Siocled dan do yng Nghanolfan Gelf Minerva
caffi dros dro siocled poeth yng Nghaffi’r Wild Oak (yn y gornel Cwtch)
blasu siocled a gwneud siocled
sesiynau adrodd stori
dangosiadau ffilm
profiad Dawns Cacao
gweithdai
gweithgareddau awyr agored wedi’u seilio ar siocled
prydau a diodydd arbennig mewn lleoliadau ledled Llanidloes
… a mwy!
Ydych chi’n fusnes siocled yng Nghymru neu’r gororau ac a hoffech gymryd rhan?
A oes gennych syniad am weithdy/gweithgaredd a fyddai’n wych ar gyfer y diwrnod yn eich barn chi?
Cysylltwch â ni a rhowch wybod mwy i ni!
Gwybodaeth am gadw lle
for more information or questions contact meredith at: meredith@foodatheart.co.uk