
Dementia Café – Gweithio gyda Chlay:
14 Tachwedd @ 10:00 yb - 12:00 yp
Am ddim
Ymunwch â ni ym mis Tachwedd yn Café Dementia Hafan – lle creadigol i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr!
Croeso i Café Dementia Hafan, cyfres o ddigwyddiadau creadigol wedi’u cynllunio’n arbennig ar gyfer pobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Mae’r sesiynau’n cynnig amgylchedd hamddenol a chefnogol i fynegi eich hun, gan annog mwynhad o fyw yn y foment gyda’n gilydd.
Yn dilyn llwyddiant ein sesiynau Llyfrau Sbwriel ym mis Mai, byddwn bellach yn neilltuo bob bore Gwener ym mis Tachwedd i Weithio gyda Chlay. Byddwn yn canolbwyntio ar waith cerfluniol, gan annog cyfranogwyr i archwilio’r deunydd hynafol, hyblyg hwn drwy deimlad a chyffyrddiad. Bydd y ceramegydd Claudia Lis wrth law i helpu sianelu syniadau, ac fe fydd pawb yn cael cyfle i gymryd rhan wrth greu cerflun ar y cyd!
Bydd cacennau, te a choffi am ddim ar gael i bawb sy’n cymryd rhan – a llawer o gyfle i sgwrsio!
Gwybodaeth am gadw lle
https://www.hafanyrafon.com/event-list