Sialens Ddarllen yr Haf 2025 – Gardd o Straeon – yn cael ei lansio ym Mhowys

21 Gorff 2025

Ymunodd plant o Ysgol Calon Y Dderwen ag awdur plant blaenllaw, Claire Fayers yr wythnos ddiwethaf mewn digwyddiad arbennig yn eu llyfrgell leol i lansio Sialens Ddarllen yr Haf ym Mhowys.

Dathlodd y digwyddiad thema’r sialens eleni sef ‘Gardd o Straeon’, lle mae creaduriaid hudolus, straeon gwyllt a rhyfeddodau natur yn dod yn fyw. Gall plant gofrestru ar gyfer y cynllun yn eu llyfrgell leol a darganfod anturiaethau darllen newydd drwy gydol yr haf.

Dywedodd yr awdur Claire Fayers: “Cefais amser gwych yn Llyfrgell y Drenewydd, yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf. Mae’n gyfle gwych i ledaenu cariad at straeon a dylai pawb gymryd rhan.”